Module Information

Module Identifier
TCM1420
Module Title
Cyfryngau Creadigol ar Waith
Academic Year
2013/2014
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials Seminarau dwys yn y Brifysgol: 5 awr ar ddechrau a 5 awr ar ddiwedd y lleoliad gwaith: 10 awr
Seminars / Tutorials Tiwtorial unigol i baratoi ar gyfer cyflwyno'r Portffolio: cyfwerth â 2 awr
Seminars / Tutorials Tiwtorialau electronig: 8 awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1. Portffolio Critigol sy,n olrhain y cynllunio ar gyfer y  lleoliad gwaith, yn adlewyrchu ar y lleoliad gwaith ac yn ymgorffori'r berthynas rhwng y profiad penodol y myfyriwr unigol ar leoliad a disgwrs damcaniaethau'r cyfryngau creadigol yn gyffredinol.  100%
Supplementary Assessment Ail gyflwyno neu gwblhau'r Portffolio a cyfnod profiad gwaith yn ôl y cyfarwyddiadau gwreiddiol  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Disgrifio a dadansoddi'r prosesau o gynhyrchu gwaith creadigol o fewn y cwmni neu’r sefydliad.
2. Dangos, drwy waith ysgrifenedig, y gallu i berthnasu esiamplau penodol o'r profiad ymarferol i'r drafodaeth ddeallusol ar y cyfryw ddiwydiannau.
3. Tafoli a hunanwerthuso'r profiad o fod ar leoliad.

Aims

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegiad at ddarpariaeth MA yr Adran ac yn benodol yn rhan o gynllun MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol , sef yr unig gynllun MA cyfrwng Cymraeg sydd ganddi. Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr i gasglu gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth ymarferol o'r cyfryngau creadigol ar waith yn eu cyd-destun yn y gweithle cyfoes. Bydd yn datblygu ar sgiliau trosglwyddadwy'r myfyrwyr- yn ysgrifenedig ac ar lafar - ac yn eu paratoi'n well ar gyfer y farchnad waith. Mae hefyd yn rhoi nod arbennig ar y modiwl ac ar y cynllun gradd ac yn ei wneud yn fwy deniadol i fyfyrwyr.

Brief description

Bwriad y modiwl hwn yw cynyddu a dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o'r cyfryngau creadigol yn enwedig yng nghyd-destun yr economi greadigol Gymreig. Mae'r modiwl yn gyfle i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth y maent wedi eu hastudio yn y semester cyntaf drwy gynnig profiad gwaith mewn cwmni neu sefydliad sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r diwydiannau creadigol o ddydd i ddydd. Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at waith y cwmni neu'r sefydliad yn ogystal ag arsylwi arno.

Content

Bwriad y modiwl yw cynnig profiad ymarferol o'r modd y mae’r cyfryngau creadigol yn gweithredu yn y cyd-destun cyfoes. Mae cydgyfeiriant yn un o brif themâu’r modiwlau a gyflwynir ar y cynllun gradd hwn, ac mae’r modiwl hwn yn gyfle i’r myfyriwr brofi’r graddau y mae cydgyfeiriant ar waith o fewn y cyfryw ddiwydiannau heddiw. Caiff y myfyriwr gyfle i gyfrannu at weithgareddau’r cwmni neu’r sefydliad ac i arsylwi’n gritigol arnynt. Bydd y cydlynydd, rheolwr llinell y gweithle a’r myfyriwr yn cyd-drafod y math o weithgareddau y mae’r myfyriwr yn cyfrannu atynt yn ystod y cyfnod hwn. Bydd cyswllt cyson rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr drwy e-bost wythnosol ac o leiaf un ymweliad â’r gweithle yn ystod y lleoliad. Mae gan yr Adran gysylltiadau a phartneriaethau cryf gyda chwmnïau a sefydliadau yn y maes hwn eisoes, e.e. Grŵp Boomerang, Rondo, Cwmni Da, S4C, BBC Cymru Wales, Theatr Arad Goch, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Felin-fach ayb ar gyfer cynnig lleoliadau gwaith
Disgwylir i fyfyrwyr gadw cofnod dadansoddol a ffeithiol yn ystod cyfnod y lleoliad a fydd yn sail i un o’r aseiniadau sydd ynghlwm â’r modiwl.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Yn ddibynnol ar y tasgau a osodir i'r myfyrwyr yn y gweithle, gellir disgwyl y bydd elfennau sylfaenol o wybodaeth rifyddol (e.e. cyllidebau neu amserlenni) yn cael eu datblygu yn ystod y modiwl hwn.
Communication Disgwylir i fyfyrwyr feithrin sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir a chroyw yn ystod y modiwl hwn ar gyfer cynnal perthynas broffesiynol lwyddiannus yn y gweithle ac ar gyfer cyflawni'r asesiadau.
Improving own Learning and Performance Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y Cydlynydd a'r Rheolwr Llinell yn y gweithle. Wedi ei seilio yn y gweithle, disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig. Bydd y rheidrwydd i gadw at ddyddiadau cau gyda'r gwaith ysgrifenedig yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser ac adnoddau yn dda.
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith asesedig gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth.
Personal Development and Career planning Bydd y lleoliad yn help i ddatblygu sgiliau cyflwyno a llafar y myfyrwyr. Bydd yr ystod o brofiadau a geir, yn ogystal â chwblhau'r gwaith asesedig, yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y mewnwelediad penodol o arsylwi'n fanwl ar weithgaredd a gweithdrefnau o fewn lleoliad gwaith yn y diwydiannau creadigol yn fuddiol iawn wrth gynllunio gyrfa.
Problem solving Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd y myfyriwr yn cyfranogi at weithgarwch y gweithle ac fe fydd hyn cynnwys ymgymryd â thasgau sydd yn gyfle i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gofyn i'r myfyriwr ddatrys problemau yn y gweithle ac arsylwi ar y modd y gwnaethpwyd hynny.
Research skills Fe fydd yn modiwl yn caniatáu helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn y gweithle drwy arsylwi ar y gweithdrefnau a'r penderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r cyfryngau creadigol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei asesu yn yr aseiniadau.
Subject Specific Skills Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol a fydd yn eu helpu i ddeall, a chymhwyso syniadau.
Team work Fe fydd angen i'r myfyriwr weithio mewn tîm yn y gweithle.

Reading List

Recommended Text
Bolton, Gillie (2005) Reflective Practice Llundain: Sage Primo search Castells, Manuel (2000) The Rise of the Network Society: Economy, Society and Culture Vol. 1 Rhydychen: Blackwell Primo search Deacon, David, Pickering, Michael, Golding, Peter and Murdock, Graham (2007) Researching Communications: A Practical Guide to Methods in Media and Cultural Analysis Llundain: Arnold Primo search Florida, Richard (2002) The Rise of the Creative Class Efrog Newydd: Basic Books Primo search Hammersley, Martyn & Atkinson, Paul (2007) Ethnography: Principles in Practice Rhydychen: Routledge Primo search Hartley, John (gol.) (2005) Creative Industries Rhydychen: Blackwell Primo search Hesmondhalgh, David (2007) The Cultural Industries Llundain: Sage Primo search

Notes

This module is at CQFW Level 7