Module Information

Cod y Modiwl
BG21420
Teitl y Modiwl
Arolygu Ecolegol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 15 x darlith 1 awr
Sesiwn Ymarferol 4 x sesiwn ymarferol 3 awr mamaliaid bychain
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Canol y tymor - prawf.  (Diwedd wythnos 6, traethawd yn ogystal ag atebion byrion).  30%
Asesiad Semester Asesiad ymarferol mamaliaid bychain.  10%
Asesiad Semester Aseiniadau cwrs maes.  20%
Asesiad Semester Adroddiad ymchwil cwrs maes.  40%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthfawrogi syniadau presennol ynghylch natur cymunedau o blanhigion mewn tirweddau

2. Defnyddio'r termau a ddefnyddir i adnabod planhigion a chymunedau a bod yn hyderus ym maes adnabod ystod o blanhigion ac anifeiliaid

3. Gwerthfawrogi'r angen am gynlluniau cofnodi biolegol a llunio strategaethau samplu priodol ac argymell technegau samplu ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, cynefinoedd ac amgylchiadau.

4. Cynnal arolwg cymunedol, gan gyflwyno a dadansoddi eu data, a chrynhoi'r canlyniadau i safonau gwyddonol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn disgrifio sut mae cymunedau planhigion yn rhyng-gysylltiedig yn y dirwedd. Mewn tirwedd ceir matrics sylfaenol sy'n cynnwys darnau o gymunedau neu fosäig cymhleth. Mae'r ddau yn adlewyrchu patrwm yr adnoddau a'r cyfyngiadau sydd yn y dirwedd (o ran amser a gofod). Gall tirweddau ymddwyn fel "archsystemau" ac mae cysylltedd yn bwysig iddynt weithio. Nid yw poblogaethau o rywogaethau unigol wedi'u hynysu, ond yn hytrach yn ffurfio metaboblogaethau sy'n cyfrannu at eu sefydlogrwydd. Yn y modiwl ystyrir y newidiadau mewn cymunedau dros gyfnod o amser, gan edrych ar olyniaeth a llystyfiant ar ei "anterth". Rhoddir ystyriaeth i ffenomenau naturiol a dynol sy’n effeithio ar gymunedau planhigion, a bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod rhywogaethau a datblygu sgiliau arolygu mewn ystod o wahanol gynefinoedd yng Nghymru. Cynhelir sesiwn arolygu sgiliau i fyfyrwyr am 5 diwrnod yn ystod gwyliau'r Pasg. Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol, ond bydd yn rhaid i gyfranogwyr drefnu eu llety eu hunain.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn manylu ar themâu modern mewn ecoleg gymunedol. Trafodir natur y gymuned a sut mae cymunedau planhigion yn perthyn i'w gilydd mewn tirwedd. O fewn tirwedd, gellid meddwl am fatrics sylfaenol ac o fewn hwn ceir darnau o fathau eraill o gymunedau. Fel arall, efallai ceir mosäig cymhleth. Mae'r ddau yn adlewyrchu patrwm yr adnoddau a'r cyfyngiadau sy'n digwydd mewn tirwedd benodol o ran amser a gofod. Yn y bôn, gall tirweddau ymddwyn fel "archsystemau". Mae cysylltedd yn bwysig o ran sut mae tirweddau integredig yn gweithio, a gall poblogaethau o rywogaethau unigol, yn hytrach na chael eu hynysu, ffurfio metaboblogaethau sy'n cyfrannu at eu sefydlogrwydd tymor hir.

Ystyrir newidiadau mewn cymunedau dros gyfnod o amser. Nid ydynt yn aros yn llonydd, ond yn newid, yn aml mewn ffyrdd sydd fel petai'n rhagweladwy. Gall y newidiadau gael eu gyrru gan ddilyniant y rhywogaethau sydd yno (hunangenedledig/autogenic), neu gan amodau amgylcheddol sy'n newid gydag amser (alogenig). Awgrymwyd y ddamcaniaeth cymhareb-adnoddau fel peirianwaith ar gyfer llystyfiant ar ei "anterth", ond gwelir diwedd pwyntiau newid lluosol mewn llawer o ardaloedd.
Yn y modiwl rhoddir ystyriaeth i ffenomenau naturiol a dynol sy'n effeithio ar gymunedau planhigion. Gall anifeiliaid, wrth bori, ddangos lefel uchel o arbenigaeth wrth lunio cyfansoddiad cymunedau planhigion, tra bydd tân naturiol yn dileu bio-màs mewn llawer o dirweddau. Gall defnydd dynol olygu math syml o ddileu bio-màs, megis mewn systemau gwair; neu fe all fod yn ddetholus, gan ganolbwyntio ar rywogaethau penodol neu grwpiau penodol o unigolion (megis rhai sydd tua'r un maint â'i gilydd) ar gyfer rhyw ddefnydd arbennig, a thrwy hyn, bydd yn effeithio ar natur y gymuned. Trafodir disgrifiadau o gymunedau planhigion a'r dosbarthiad gofodol, o ran dulliau rhifol (dosraniad a dosbarthiad) a dulliau llysgymdeithasegol disgrifiadol (wedi'r cynrychioli gan NVC).

Er mwyn datblygu profiad ymarferol disgwylir i fyfyrwyr wneud y canlynol:
i) Cynnal arolwg o famaliaid bychain o'r wythfed wythnos ymlaen: bydd hyn yn golygu trapio poblogaethau mamaliaid bach yn lleol a'u hasesu.
ii) Gwneud cwrs maes pum diwrnod yn lleol (yn ystod gwyliau'r Pasg). Y nod yw datblygu arbenigedd ar gyfer adnabod rhywogaethau planhigion mewn ystod eang o gynefinoedd gwahanol yng Nghymru gan gynnwys gwrychoedd a choetiroedd collddail. Bydd y myfyrwyr yn cael arweiniad a chyfarwyddyd ar y technegau gwahanol ar gyfer samplu a strategaethau asesu poblogaethau (planhigion ac anifeiliaid). Byddant hefyd yn disgrifio cymunedau ac yn edrych ar nodweddion pridd.
Oherwydd pwysigrwydd sgiliau ymarferol / sgiliau maes ar gyfer deall y pwnc hwn, mae asesiadau'r modiwl wedi'u pwysoli (70%) tuag at elfennau ymarferol gyda 30% yn seiliedig ar brawf.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyflwyniadau wedi'u hasesu yn ystod y cwrs maes (wedi'u hintegreiddio i'r prif asesiad).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Yn cynnig sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o arolygu. Sgiliau hanfodol i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn gyrfa amgylcheddol / cadwraeth.
Datrys Problemau Dadansoddi samplau a data. Synthesis ac asesiadau mewn sesiynau ymarferol.
Gwaith Tim Gweithgareddau dysgu mewn grwpiau yn ystod y dyddiau arolygu i ddatblygu sgiliau tîm. Casglu data mewn grwpiau ar gyfer asesiad maes.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dysgu wedi'i dargedu mewn ffordd sy'n gwella perfformiad dros gyfnod o amser. Darperir enghreifftiau o gwestiynau arholiad drwy gydol y modiwl. Rhoddir adborth ar farciau a chynnydd yn ystod y cwrs maes.
Rhifedd Casglu data, ei ddadansoddi a dehongli data arolwg ar gyfer asesiadau maes.
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion ac anifeiliaid.
Sgiliau ymchwil Darllen ychwanegol i gefnogi cynnwys darlithoedd ac ymchwilio ar gyfer asesiadau maes.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio adnoddau ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5