Module Information

Cod y Modiwl
GF32410
Teitl y Modiwl
Cyfraith Ewropeaidd 2
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
GF17120 neu LA17120 neu LA37120
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 awr (yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 3 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  (gweld) . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  100%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  (gweld) . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  100%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl, dylai fod gan y myfyrwyr wybodaeth am nifer o feysydd allweddol o gyfraith hawliau. Bydd disgwyl iddynt ddangos datblygiad pellach yn eu sgiliau wrth ymdrin a deunyddiau'r Undeb Ewropeaidd (gan adeiladu ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni eisoes yn y modiwl rhagofynnol), a dangos gallu pellach wrth gymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol ac wrth ddadansoddi a thrafod materion yr Undeb Ewropeaidd. Wrth asesu trwy gyfrwng arholiad, gellir mesur gwybodaeth y myfyrwyr a'u gallu i ymresymu a dadansoddi yn berthnasol i'r pwnc dan sylw.

Disgrifiad cryno

Pan fo masnachwyr a phrotestwyr yn gwrthdaro yngl'n ag allforio anifeiliaid byw o Brydain, a yw'n gywir i'r masnachwyr ddweud fod ganddynt hawliau o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd? Sut mae mynd i'r afael a'r miloedd o geiswyr-lloches sy'n gofyn am gael aros yn yr Undeb Ewropeaidd? A yw hi'n wir y gall swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd archwilio adeiladau cwmni yn y Deyrnas Unedig os ydynt yn amau bod y cwmni wedi torri rheolau'r Gymuned Ewropeaidd o ran cystadleuaeth? Sut mae Cyfraith Ewrop yn amddiffyn ein buddiannau fel defnyddwyr? Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dod yn nodwedd fwyfwy pwysig o'n bywyd cyfreithiol yng Ngorllewin Ewrop, ac, yn benodol, yn y Deyrnas Unedig ers iddi ymuno ym 1973. Er mai ymwneud a materion economaidd a masnachol yn bennaf a wnai i gychwyn, erbyn hyn mae ei gweithgarwch wedi ehangu i gwmpasu materion cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd. Mae cyfraith Ewropeaidd felly'n gorgyffwrdd a nifer o feysydd o gyfraith ddomestig, ac erbyn hyn mae'n anodd deall cyfraith Cymru a Lloegr heb gael rhywfaint o wybodaeth am effeithiau trefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno pynciau dethol o gyfraith hawliau yr Undeb Ewropeaidd i'r myfyrwyr. Mae'n adeiladu ar eu gwybodaeth am y drefn gyfreithiol yn nifer o feysydd polisi'r Undeb Ewropeaidd a'r gyfraith sy'n rhoi grym i'r polisiau hyn. Mewn unrhyw flwyddyn, caiff dau bwnc annibynnol eu hastudio a'u dewis o restr sy'n cynnwys: symud nwyddau'n ddilyffethair a'r farchnad sengl; symud pobl yn ddilyffethair, mewnfudo a lloches; rheoleiddo cystadleuaeth rhwng mentrau ac esblygiad ac effaith polisi defnyddwyr Ewropeaidd. Dewiswyd y pynciau hyn fel meysydd o bwys canolog a chyfoes a rhai sy'n dangos y problemau y mae rheoleiddio cyfreithiol yn eu hachosi i bolisiau sy'n cael eu llunio ar lefel oruwchgenedlaethol.

Cynnwys

Cynnwys

I'w gymryd o'r rhestr hon:

1. Dileu'r rhwystrau i fasnach rydd a symudiad dilyffethair gweithwyr.

Symud nwyddau a gweithwyr yn ddilyffethair, y rhyddid i breswylio a'r hawl i ddarparu gwasanaethau. Er enghraifft, i ba raddau mae'r Aelod-wladwriaethau yn llesteirio symud nwyddau'n ddilyffethair a gweithrediad y farchnad sengl yn sgil hynny? I ba raddau gall gweithiwr o un Aelod-wladwriaeth symud i weithio mewn Aelod-wladwriaeth arall? Pryd y gall pobl hunangyflogedig sefydlu eu busnes mewn Aelod-wladwriaeth arall? Eithriadau a ganiateir i'r egwyddorion sylfaenol.

2. Polisi mewnfudo.

Datblygiad y drefn sy'n llywodraethu mewnfudo pobl o'r tu hwnt i'r UE ac sy'n rheoleiddio ceiswyr lloches.

3. Rheolau cystadleuaeth yn yr UE.

Erthyglau 101 a 102 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd; cymhwyso rheolau cystadleuaeth i gytundebau rhwng mentrau; rheoli sefyllfaoedd goruchafol; gweinyddu'r rheolau o ran cystadleuaeth. Bydd yr adran hon yn edrych ar gwestiynau fel, pam fod yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud a materion cystadleuaeth a'r dulliau y mae'n eu defnyddio i orfodi ei chyfraith a'i pholisi ar gystadleuaeth. I ba raddau y gallai cytundebau rhwng cwmniau preifat beryglu'r farchnad sengl?

4. Esblygiad ac effaith polisi defnyddwyr Ewrop
Bydd y rhan yma o'r cwrs yn rhoi gorolwg cyffredinol o esblygiad polisi defnyddwyr Ewrop. Bydd y fframwaith rheoleiddio sy'n llywodraethu rhai agweddau o ddosbarthiad a diogelwch bwyd yn rhoi astudiaethau achos sy'n dangos effeithiau ymarferol y mesurau Ewropeaidd ar gyfer amddiffyn defnyddwyr ar ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
(2008) Blackstone's Statutes on EU Treaties and Legislation 2008-09 Mae'r llyfr hwn yn anhepgor ar gyfer darlithoedd a seminarau a chwech fynd ag ef i mewn i'r arholiad. 19th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Craig, PP (2007) EU Law: text, cases and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Rudden & Wyatt (2004) Rudden & Wyatt's EU Treaties and Legislation http://www.loc.gov/catdir/toc/ecip0418/2004012955.html Llyfr anhepgor ar gyfer darlithoedd a seminarau a caniateir mynd a chopi i mewn i'r arholiad. 9th ed. Oxford University Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6