Module Information

Cod y Modiwl
GF34230
Teitl y Modiwl
Systemau a Sgiliau Cyfreithiol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr
Seminarau / Tiwtorialau 8 seminar awr o hyd (Yr ymryson cyfreitha - cynhelir hyn yn ystod un o'r oriau seminar ar yr amserlen)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar ddiwedd Semester 1  . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad.  35%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar ddiwedd Semester 2  . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad.  35%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar - ymarfer ymryson cyfreitha - ffug-dreial  30%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad Semeseter 1 (Ailsefyll yr elfen a fethir)  . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad.  35%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad Semeseter 2 (Ailsefyll yr elfen a fethir)  . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad.  35%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar - ymarfer ymryson cyfreitha - ffug-dreial  (Ailsefyll yr elfen a fethir)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Esbonio a dangos dealltwriaeth o strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, a'r rhai sy'n chwarae rhan ynddo
2. Esbonio arwyddocâd a'r defnydd o gynsail barnwrol, a'i berthynas â system y llysoedd
3. Dadansoddi'n feirniadol y prosesau o greu deddfwriaeth
4. Dadansoddi, a dangos dealltwriaeth o'r broses o ddehongli statudol barnwrol
5. Dangos gwybodaeth o ffurfiau amgen o ddatrys anghydfodau ac asesu eu hyfywedd a'u dehongli
6. Dangos y gallu i ddod o hyd i wybodaeth gyfreithiol drwy ddefnyddio dulliau ymchwil electronig ac ar bapur fel ei gilydd, i ddangos lefel sylfaenol o gymhwysedd wrth leoli a defnyddio ffynonellau cyfreithiol gwreiddiol ac eilaidd
7. Dehongli, gwerthuso a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau cyfreithiol gwreiddiol ac eilaidd, a'u cymhwyso wrth resymu yn gyfreithiol
8. Dangos sgiliau llunio nodiadau achos a sgiliau datrys problemau
9. Dangos trefnu syniadau a dadleuon wrth gymhwyso'r gyfraith i sefyllfaoedd ffeithiol
10. Llunio dadleuon cyfreithiol a chymhwyso rhesymu cyfreithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
11. Paratoi, dadlau o blaid, a chyflwyno achos ar lafar, yn effeithiol a rhesymegol, ar ran y diffynnydd neu'r erlyniad, mewn ymryson cyfreitha a asesir yn ffurfiol (ffug dreial)

Cynnwys

1. Ffynonellau gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys y llyfrgell a'r cronfeydd data cyfreithiol (yn cynnwys cyfraniadau gan lyfrgellydd y Gyfraith; a chynrychiolwyr Westlaw a LexisNexis yn eu tro)
2. Swyddogaethau'r gyfraith a System y Llysoedd
3. Sut mae cynsail yn gweithio; darllen achosion a llunio nodiadau achos (mae hyn yn cynnwys ymarfer ymarferol yn y ddarlith ar lunio nodiadau achos)
4. Deddfwriaeth; darllen deddfwriaeth a dehongli statudau
5. Datrys problemau mewn perthynas â chyfraith gwlad a throseddau deddfwriaethol (mae pob un o'r darlithoedd datrys problemau yn gysylltiedig â thasg ymarferol i'w pharatoi gan y myfyrwyr cyn y darlithoedd)
6. Dadansoddi beirniadol o achosion ac esboniadau eto, ymarferion ymarferol ynglŷn â sut i ddadansoddi'n feirniadol.
7. Personél cyfreithiol, gan gynnwys proffesiwn y gyfraith; ynadon, y farnwriaeth; a'r rheithgor.
8. Sgiliau ychwanegol: Ysgrifennu traethodau a throednodi; paratoi ar gyfer arholiadau; ac osgoi ymddygiad annheg
9. Tribiwnlysoedd; gweithdrefnau ymchwiliol a gwrthwynebus
10. Datrys anghydfodau amgen a negodi
11. Sgiliau ymrysona, cyflwyno llafar ac eiriolaeth (bydd y bloc darlithoedd hyn yn (i) adlewyrchu perthnasedd sgiliau eiriolaeth yn ymarfer y gyfraith, a (ii) cymhwyso'r Ymryson Cyfreitha (y ffug achos llys) sy'n elfen asesedig o'r modiwl. Bydd myfyrwyr yn dysgu am hanfodion ymrysona; yn paratoi'r nodiadau achos perthnasol; yn gwylio arddangosiad gan y tîm ymrysona; ac yn dysgu am sgiliau eiriolaeth yn gyffredinol.

Disgrifiad cryno

(i) Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno strwythur y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr i fyfyrwyr, gan gynnwys Llysoedd a thriwbiwnlysoedd; rôl proffesiwn y gyfraith; a sut y mae datrys anghydfodau amgen yn gweithio. Bydd yn cynnig dadansoddiad manwl o waith y farnwriaeth yng nghyswllt dadansoddi deddfwriaeth a datblygu cyfraith achosion, ynghyd â swyddogaethau'r rheithgor. Darperir dealltwriaeth drylwyr o'r amgylchedd y mae'r gyfraith yn gweithredu ynddo.

(ii) Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu hastudiaethau eraill yn y Gyfraith yn y Brifysgol drwy gyflwyno ystod o sgiliau y bydd rhaid iddynt eu meistroli i lwyddo yn yr astudiaethau hynny. Bydd hyn yn cynnwys darllen deddfwriaeth ac achosion; dadansoddi beirniadol; ysgrifennu traethodau; llunio nodiadau achosion a datrys problemau.

(iii) Dysgir sgiliau ymrysona, cyflwyno llafar ac eiriolaeth yn y modiwl drwy ddarlithoedd a seminarau. Asesir yr elfen ymrysona yn ffurfiol, gan fod hyn yn sgìl galwedigaethol o bwys.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi ar gyfer seminarau gwrthwynebol, a'r ymryson, a thrafod ynddynt; Yn yr arholiad, cymhwyso cyfraith achosion i sefyllfaoedd cyfreithiol a ffeithiol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd yr hyn a ddysgir drwy gydol y modiwl yn berthnasol i ddilyn gyrfa yn y gyfraith, yn enwedig gyrfa eiriolaeth
Datrys Problemau Trafod a pharatoi ar gyfer cwestiynau datrys-problemau, mewn darlithoedd a seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp yn arbennig mewn seminarau gwrthwynebol lle bydd grwpiau myfyrwyr yn dadlau o blaid ac yn erbyn hen egwyddorion cyfreithiol. Ymrysona
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Paratoi ar gyfer gwaith ymchwil a seminarau cyn ac ar ôl y darlithoedd, gan gynnwys paratoi nodiadau achos ysgrifenedig a dadansoddiadau beirniadol
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfrethiol wedi'u cynllunio'n arbennig fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol megis achosion a deddfwriaeth. Datrys problemau: dadansoddi'n feirniadol a llunio nodiadau achos Ymrysona ac eiriolaeth
Sgiliau ymchwil Paratoi ar gyfer gwaith ymchwil a seminarau cyn ac ar ôl y darlithoedd
Technoleg Gwybodaeth Mewn darlithoedd; ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd; ac wrth baratoi seminarau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6