Module Information

Cod y Modiwl
GF39320
Teitl y Modiwl
Cymru'r Gyfraith
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
GF142230 neu GF14720 neu GF10110 neu LA15710 neu GF32330 neu GF34720

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 36 - 1 hour lectures via video link with Swansea University
Seminarau / Tiwtorialau 8 - 1 hour seminars total
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  - os caiff yr arholiad ei fethu  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  . Rhaid i fyfyrwyr ateb Tri chwestiwn.Bydd ar y papur Arholiad chwech cwestiwn, tri yn Adran A a thri yn Adran B. Rhaid i fyfyrwyr ateb o leiaf un cwestiwn or ddwy adran. NI chaniateir dod ag unrhyw destunau na nodiadau o unrhyw fath i mewn ir ystafell arholiad.  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau - os caiff yr traethawd ei fethu  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwneud ymchwil gyfreithiol i faterion sy'n effeithio ar Gymru;

2. Dadansoddi goblygiadau deddfwrfa ddeuol a system gyfreithiol mewn dwy iaith;

3. Cysylltu cyfraith Cymru â'i gyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach;

4. Llunio darn o waith academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar y cysyniad datblygol o Gymru'r Gyfraith. Bydd y modiwl yn dadansoddi'r syniad o Gymru fel endid cyfreithiol penodol yn y cyfnod ar ôl datganoli. Bydd y modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac fe'i cyflwynir ar sail draws-sefydliadol, gydweithredol, yn unol ag ymrwymiad y brifysgol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gwerslyfr sy'n cyd-fynd â'r modiwl eisoes wedi ei lunio, a fydd yn destun craidd i fyfyrwyr sy'n astudio'r modiwl.

Cynnwys

  • Swyddogaethau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
  • Statws gyfreithiol yr iaith Gymraeg
  • Rheithgorau dwyieithog
  • Ysgolheictod cyfreithiol yng Nghymru
  • Datganoli'r system gyfreithiol a datblygiad awdurdodaeth Cymru

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Y gallu i gyflwyno dadl resymedig ar faterion cyfansoddiadol a chyfreithiol dadleuol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau yn y Gymraeg wrth gyflwyno ar lafar ac yn ysgrifenedig
Datrys Problemau Awgrymu a datblygu atebion i bynciau cyfansoddiadol a chyfreithiol cymhleth sy'n berthnasol i Gymru'r Gyfraith
Gwaith Tim Gweithio mewn grwpiau mewn seminarau
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â Chymru'r Gyfraith, a'r gallu i ymgysylltu â'r ddadl gyhoeddus
Rhifedd Dehongli data ystadegol perthnasol
Sgiliau pwnc penodol Y gallu i ddehongli pynciau a llunio dadl resymedig ar sail ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ar bynciau sy'n berthnasol i Gymru'r Gyfraith
Sgiliau ymchwil Ymchwil gyfreithiol ar gyfraith gyfansoddiadol, hawliau iaith, cyfraith a pholisi addysg uwch, cyfiawnder troseddol
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio cronfeydd data cyfreithiol ac adnoddau ar-lein wrth ymchwilio

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6