Module Information

Cod y Modiwl
GW10320
Teitl y Modiwl
Rhyfel Strategaeth a Chuddwybodaeth
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 8 Awr. (8 x 1 awr)
Darlithoedd 20 Awr. (20 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   [1x arholiad 2 awr]  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod rôl a defnydd grym o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol
2. Amlinellu rhai o elfennau allweddol esblygiad rhyfela cyfoes
3. Trafod damcaniaethau ataliaeth niwclear, rhyfela gerila chwyldroadol a therfysgaeth
4. Amlinellu swyddogaeth a rhai o'r pryderon ynglŷn â chudd-wybodaeth
5. Arddangos ymwybyddiaeth o rai o'r materion cyfoes mewn astudiaethau strategol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad i astudio strategaeth, i esblygiad rhyfela ac i astudio cudd-wybodaeth. Mae'n canolbwyntio ar rôl grym mewn cysylltiadau rhyngwladol, sut mae'n cael ei ddefnyddio a sut yr asesir posibiliadau ei ddefnyddio. Mae'n cynnwys pum elfen allweddol:

- defnyddioldeb grym yn yr oes fodern
- esblygiad rhyfela o gyfnod Napoleon hyd at y r Ail Ryfel Byd
- strategaeth yn yr oes niwclear
- rôl cudd-wybodaeth
- materion cyfoes mewn strategaeth ac astudiaethau diogelwch

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys pum adran gysylltiedig. Bydd y modiwl yn dechrau drwy drafod y defnydd o rym yn yr oes fodern, gan gynnwys dadleuon ynglyn â'r defnydd o rym a darfodedigrwydd rhyfel. Yna bydd yn ystyried esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear, gan gynnwys y chwyldro Napoleonaidd a tharddiad rhyfela modern, dyfodiad rhyfel ddiarbed ac effaith technoleg ar ryfel, gan ddod â myfyrwyr hyd at ddyfodiad yr oes niwclear. Mae'r drydedd adran yn ymdrin â syniadaeth strategol yn yr oes niwclear, gan gynnwys damcaniaeth ataliaeth, strategaeth niwclear, rheoli arfau, rhyfela chwyldro-gerila a therfysgaeth. Yn bedwerydd, rhoir ystyriaeth i rôl cudd-wybodaeth, gan gynnwys cyfreithlondeb gweithgareddau casglu cudd-wybodaeth, cudd-wybodaeth a'r wladwriaeth, a gwrthysbïo. Yn olaf mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o gwestiynau cyfoes ym maes strategaeth, gan gynnwys ymyrraeth ddyngarol, lluosogiad niwclear a'r rhyfel yn erbyn terfysgaeth.

Darlithoedd
Cyflwyniad i'r modiwl
1. Astudio Rhyfel a Rhyfel o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol
2. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan I): Levee en masse
3. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan II): Rhyfel Diarbed
4. Grym y Môr a'r Awyr: o Salamis i Irac
5. Hanes ac Astudio Ysbïwriaeth a Chudd-wybodaeth
6. Twyll Strategol
7. Gweithredu Dirgel
8. Clausewitz a'i olynwyr (rhan I)
9. Clausewitz a'i olynwyr (rhan II)
10. Ataliaeth niwclear (rhan I)
11. Ataliaeth niwclear (rhan II)
12. Gwrthryfel, herwryfela a therfysgaeth (rhan I)
13. Gwrthryfel, herwryfela a therfysgaeth (rhan II)
14. Materion cyfoes o fewn astudiaethau diogelwch
15. Preifateiddio Diogelwch
16. Amddiffynfa rhag Taflegrau Balistig
17. Affrica: astudiaeth achos yn ymwneud â materion cyfoes
18. UDA a'r 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth'.

Seminarau

Seminar 1: Rhyfel a grym
Seminar 2: Grym Morwrol ac Awyrennol
Seminar 3: Cudd-wybodaeth
Seminar 4: Clausewitz ac Astudiaethau Strategol Cyfoes
Seminar 5: Arfau Niwclear
Seminar 6: Grym Confensiynol a Rhyfela'r Dyfodol
Seminar 7: Ymyrraeth Ddyngarol a Chadw'r Heddwch
Seminar 8: Terfysgaeth a Rhyfeloedd Newydd

Nod

Cynnig cyflwyniad i chi o rol grym a chudd-wybodaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a rhai o'r pryderon a'r dadleuon yn eu cylch.

Sgiliau trosglwyddadwy

Drwy gydol y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl yn ogystal â'u sgiliau hunanreolaeth. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau gwrando, esbonio a thrafod, yn ogystal â sgiliau cyflwyno llafar. Bydd paratoi ar gyfer traethodau a'u hysgrifennu yn annog myfyrwyr i ymarfer sgiliau ymchwilio annibynnol gan gynnwys adalw, dethol, cydosod a threfnu data, ysgrifennu, TG a rheolaeth amser.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4