Module Information

Cod y Modiwl
GW10920
Teitl y Modiwl
Anghyfartaleddau Byd Eang
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 Awr (18 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Awr (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x Arholiad (2 awr)  100%
Arholiad Semester 2 Awr   1 x Arholiad (2 awr)  60%
Asesiad Semester 1 x Traethawd (2500 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Ddeall yn well ffurfiau a phatrymau anghydraddoldebau byd-eang.
2. Adnabod seiliau hanesyddol y drefn economaidd a chymdeithasol fyd-eang.
3. Archwilio'n feirniadol y llenyddiaeth ddamcaniaethol berthnasol ar anghydraddoldebau byd-eang.
4. Asesu dilysrwydd a chyfyngiadau gwahanol esboniadau o'r ffenomena.
5. Ddeall y prif rwystrau i geisio dileu strwythurau gwahardd byd-eang.
6. Lleoli prif benderfynynnau y rhaniad byd-eang newydd rhwng y rhai breintiedig a'r difreintiedig.
7. Archwilio dimensiynau moesegol a moesol anghydraddoldebau byd-eang.
8. Archwilio cynigion newydd ar gyfer brwydro yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb byd-eang.
9. Trafod goblygiadau'r trawsffurfiadau byd-eang o ran grym economaidd a gwleidyddol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn archwilio dimensiynau hanesyddol a strwythurol ffurfiau hen a newydd o anghydraddoldebau byd-eang. Yn rhyng-ddisgyblaethol a thraws-ddisgyblaethol, mae'r ymchwilio'n gosod anghydraddoldeb byd-eang (yn ei ystyr ehangaf) megis elfen gyfansawdd cysylltiadau rhyngwladol. Yn seiliedig ar ymwneud cyson a beirniadol gyda gwahanol esboniadau damcaniaethol (ac yn enwedig, penderfynynnau naturiol, biolegol a diwylliannol) bydd y modiwl yn edrych ar ffurfiant a thrawsffurfiant gofodol/amseryddol strwythurau gwaharddol strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd. Mae'r modiwl yn archwilio effaith a dilysrwydd trefedigaethrwydd; y cysylltiad rhwng datblygiad ac anghydraddoldeb; patrymau o anghydraddoldebau sy’n ymddangos dan ailstrwythuro neo-ryddfrydol; ac effeithiau parhaol gwareiddiad materol ar yr amgylchedd. Wrth edrych ar amrywiol ffasedau anghydraddoldeb byd-eang, mae'r modiwl yn trafod y rhesymeg sy'n treiddio drwy oruchafiaeth y farchnad ar raddfa fyd-eang, ac yn cwestiynu'n feirniadol ei agweddau moesegol a moesol. Mae'r modiwl hefyd yn craffu ar oblygiadau gwleidyddol y newid y gellid ei weld mewn grym economaidd a gwleidyddol, gan gynnwys ymddangosiad parthau newydd gwaharddiad a chynhwysiad.

Cynnwys

1. Cyflwyniad: Beth yw anghydraddoldeb byd-eang?
2. Patrymau hen a newydd
3. Esboniadau Gwahanol
4. Penderfynyn Naturiol
5. Hil a Diwylliant
6. Trefedigaethrwydd a'i Ganlyniadau
7. Tlodi a Gwleidyddiaeth Byd-eang
8. Y dychmygol neo-ryddfrydol
9. Trychineb ac Ail-adeiladu
10. Y farchnad a moesoldeb
11. Pris Anghydraddoldeb
12. Rhywedd ac Anghydraddoldebau Byd-eang
13. Diwylliant Hunanaddoliad
14. Trais Araf
15. Yr Anthropocene
16. Gwrthsafiad
17. Her a Rhagolwg
18. Casgliad

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cryfhau rhaglen ddysgu'r Adran drwy gynnig archwiliad manwl o wahanol ffurfiau hen a newydd o anghydraddoldebau byd-eang, maes hollbwysig ymchwil academaidd o fewn maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y modiwl yn gwneud cyfraniad pwysig i'r clystyrau dysgu o fewn meysydd Economi Wleidyddol Ryngwladol, Hanes Rhyngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Trydydd Byd. Bydd y modiwl yn hybu dealltwriaeth o benderfynynnau hanesyddol a strwythurol anghydraddoldebau byd-eang o bersbectif rhyng-ddisgyblaethol a thraws-ddisgyblaethol. Bydd yn tynnu a amrywiaeth o lenyddiaethau damcaniaethol o fewn meysydd Cysylltiadau Rhyngwladol, Hanes Byd-Eang, Astudiaethau Diwylliannol a'r Economi Wleidyddol Ryngwladol er mwyn darparu cyd-destun a dealltwriaeth o rai o broblemau mwyaf parhaol gwleidyddiaeth y byd gydag oblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol pwysig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi’u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno traethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau’r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o'r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau'r gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol I'r modiwl - Gwerthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol - Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4