Module Information

Cod y Modiwl
GW35520
Teitl y Modiwl
Argyfwng Taflegrau Ciwba
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 9 x darlith 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 6 x seminar 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   1 x arholiad 2 awr  50%
Asesiad Semester seminar performance  10%
Arholiad Ailsefyll Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn. Am fwy o fanylion dylid cysylltu ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. dangos dealltwriaeth o darddiad, deinameg a datrysiad yr argyfwng
2. cloriannu gwerth safbwyntiau hanesyddiaethol amgen
3. egluro pa mor agos ddaeth y byd at ryfel niwclear ym 1962
4. trafod pa oleuni mae ysgolheictod diweddar yn ei fwrw ar y cyfleon a'r sialensiau sy'n wynebu'r dull hanesyddol
5. dadansoddi gwersi posib yr argyfwng ar gyfer y dull o gynnal materion rhyngwladol

Nod

Prif nod y modiwl hwn yw edrych ar y dadleuon sy'n bodoli ynghylch Argyfwng Taflegrau Ciwba, ac i astudio sut mae haneswyr, gwyddonwyr gwleidyddol a myfyrwyr rheolaeth argyfwng wedi dadansoddi digwyddiadau 1962. Ail amcan yw dangos sut mae astudio'r argyfwng yn taflu goleuni ar wahanol agweddau o ysgolheictod. Beth, er enghraifft, all hanesyddiaeth ddiweddar ddweud wrthym ynghylch y cyfleon a'r sialensiau i ddull hanesyddol, yn arbennig nawr wedi diwedd y Rhyfel Oer? Y drydedd nod yw archwilio gwersi posib yr argyfwng ar gyfer diplomyddiaeth a rheolaeth argyfwng nid yn unig yng nghyd-destun y Rhyfel Oer ond yn fwy eang yn yr oes o arfau dinistr torfol yr ydym yn byw ynddi heddiw.

Disgrifiad cryno

Ym mis Hydref 1962 bu bron I'r Rhyfel Oer droi'n rhyfel niwclear. Byth ers hynny, mae ysgolheigion, arweinwyr gwleidyddol a swyddogion milwrol wedi pendroni a thrafod ynghylch pa mor agos oeddem mewn gwirionedd i Armagedon. Mae achosion, trywydd a chanlyniadau'r argyfwng yn parhau yn destunau trafod ac anghytuno ymysg ysgolheigion a'r rhai oedd yn ei chanol hi ar bob ochr.

Cynnwys

Mae'r cwrs yn cynnwys naw darlith o un awr yr un a chwe seminar o ddwy awr yr un.

Darlithoedd:
1. Cyflwyniad: Tarddiad yr Argyfwng
2. Deinameg yr Argyfwng
3. Datrys yr Argyfwng
4. Hanesyddiaeth ac Adolygiaeth
5. Rol Arfau Niwclear
6. Persbectifau Sofietaidd a Chiwbaidd
7. Rol Kennedy a Khrushchev
8. Prydain a'r Argyfwng Taflegrau
9. Gwersi'r Argyfwng

Seminarau:
1. Tarddiad: Sofietaidd
2. Tarddiad: Americanaidd
3. Deinameg a Datrysiad
4. Rol Arfau Niwclear
5. Safbwyntiau Sofietaidd
6. Gwersi a Gorolwg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tim fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr a sgiliau gweithio mewn tim. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu¿r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Ni fydd gwaith tim yn elfen ganolog o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a'u traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr I chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chanfod adnoddau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig (fel Web of Science a OCLC). Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6