Module Information

Cod y Modiwl
GWM4220
Teitl y Modiwl
Y Wladwriaeth trwy'r Oesoedd
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 8 x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 4,000 o eiriau  70%
Asesiad Semester 1 x 750 Ddarn Ymchwiliol  15%
Asesiad Semester 1 x 750 Ddarn Ymchwiliol  15%

Canlyniadau Dysgu

1. Dangos dealltwriaeth ddofn a systematig o'r cysyniad o wladwriaeth a'r gwahanol ddealltwriaethau o'i dechreuad a'r modd y'i defnyddiwyd.
2. Dangos gwybodaeth dda o'r rhesymau dros ddatblygiad gwladwriaethau, gan gynnwys ymwybyddiaeth o bynciau megis datblygiad economaidd, cenedlaetholdeb, trefedigaethrwydd, concwest filwrol, a chymdeithasau gwladychwyr.
3. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol er mwyn gallu dadansoddi materion cymhleth sy'n rhan o'r modiwl a chyfosod a strwythuro deunyddiau dadansoddol yn rhesymegol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrosesau blaengar.
4. Ymwneud â thrafodaethau academaidd yn broffesiynol drwy ddiffinio pwnc, cyflwyno ei israniadau yn effeithiol, ymwneud â chynulleidfa yn llafar ac yn glyweledol, ac ateb cwestiynau'n effeithiol;
5. Defnyddio lefel o ddealltwriaeth gysyniadol a damcaniaethol fydd yn caniatáu iddynt werthuso'n feirniadol (a defnyddio) damcaniaeth i ymdrin â phroblem benodol a damcaniaethu ar agweddau amgen.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn archwilio syniadau am y wladwriaeth a'i ffurfiau amgen drwy gydol hanes. Mae'n ystyried ffurfiant ac esblygiad hanesyddol y wladwriaeth, a hefyd yn annog gwerthfawrogiad o'r amrywiaeth ffurfiau o wladwriaeth sydd wedi datblygu dros y canrifoedd. Wrth ymchwilio i amrywiol ddealltwriaethau o'r wladwriaeth – o'r gorffennol ac o du allan i Ewrop, mae'r modiwl yn herio syniadau Ewro-ganolog o gymuned wleidyddol. Yn ogystal, trafodir y syniad o ofod gwleidyddol gan leoli'r wladwriaeth o fewn daearyddiaethau ehangach o rym gwleidyddol. O fewn y modiwl, defnyddir esiamplau megis gwladwriaethau dinasoedd Groeg, gwladwriaethau'r Dwyrain Canol, gwladwriaethau ôl-imperialaidd megis Twrci, Iran a/neu'r DG, gwladwriaethau datganoledig, a datblygiad dealltwriaethau 'neo-ganoloesol' o drefn wleidyddol ryngwladol.
Yn olaf, bydd y modiwl yn rhoi sylw i'r prosesau a'r rhesymau dros ffurfiant y wladwriaeth. Anogir archwilio ymhellach themâu datblygiad economaidd, cenedlaetholdeb, trefedigaethrwydd ac effaith concwest filwrol a gwladychiad ar strwythurau gwleidyddol sy'n dilyn.

Cynnwys

Rhaglen Seminar Amodol
1. Cyflwyniad: gorolwg o'r modiwl a diffiniadau o'r wladwriaeth
2. 'Gwladwriaethau' cynnar
3. Y wladwriaeth a'r genedl
4. Y wladwriaeth a'r economi
5. Y wladwriaeth a rhyfel
6. Y wladwriaeth a'r boblogaeth
7. Y tu hwnt i'r wladwriaeth: 'Torri ymaith ben y Brenin'
8. Casgliad

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at raglen ddysgu uwchraddedig yr Adran, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a'r Athrofa newydd o bosib, drwy gynnig ffocws sustained ar ddatblygiad hanesyddol y wladwriaeth. Wrth wneud hynny, mae'r modiwl yn cynnig cyd-destun hanesyddol i nifer o'r trafodaethau cyfoes o fewn maes Cysylltiadau Rhyngwladol a bydd o bosib yn gweithredu fel un o gonglfeini darpariaeth cyfrwng Cymraeg y dyfodol o fewn yr Adran a'r Athrofa ehangach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi'u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno traethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau’r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o'r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau’r gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol I’r modiwl - Gwerthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol - Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7