Module Information

Cod y Modiwl
GWM6230
Teitl y Modiwl
Pleidiau a Chynrychiolaeth yn y Gymru Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 seminar x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x draethawd 3,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester 1 x papur 1,000 o eiriau ar seminar  20%
Asesiad Semester 1 draethawd 3,500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod natur gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru cyn 1999 ac wedi datganoli.
2. Asesu'n feirniadol a gwerthuso effeithiau datganoli ar wleidyddiaeth etholiadol a'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.
3 Disgrifio a dadansoddi prif nodweddion ffurfiau amgen o gynrychiolaeth wedi datganoli ac asesu llwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol wrth ymgyrraedd at 'gynrychiolaeth ddisgrifiadol'.
4. Arddangos, trwy waith ysgrifenedig a thrafodaethau seminar, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r newidiadau yn y farn gyhoeddus yng Nghymru wedi datganoli.
5. Dadansoddi effeithiau'r farn gyhoeddus ar y pleidiau gwleidyddol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
6. Adnabod a gwerthuso'r materion polisi allweddol yn ystod tymor cyntaf ac ail dymor y Cynulliad Cenedlaethol.
7. Trafod effeithiau gwleidyddiaeth etholiadol, cyfraniad gwahanol gynrychiolaeth amgen yn y broses bolisi a'r farn gyhoeddus ar agenda bolisi'r Cynulliad a gwerthuso goblygiadau'r rhain.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ffurfio rhan allweddol o ddarpariaeth rhan amser yr adran ym maes dysgu Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Ar y cyd a'r modiwlau eraill, mae'n rhoi cyflwyniad i'r maes hwn ar lefel uwch ac yn cynnig i fyfyrwyr sydd a diddordeb wybodaeth arbenigol o ddatblygiad gwleidyddiaeth etholiadol, y farn gyhoeddus a chynrychiolaeth yng Nghymru ers datganoli, yn enwedig mewn perthynas a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynnwys

1. Gwleidyddiaeth etholiadol a phleidiau gwleidyddol yng Nghymru cyn datganoli
2. Y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ol-ddatganoledig
3. Gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru ol-ddatganoledig
Ffurfiau amgen o gynrychiolaeth
4. Damcaniaethau cynrychiolaeth: cynrychiolaeth ddisgrifiadol.
5. Cynrychiolaeth menywod yng Nghymru ol-ddatganoledig
6. 'Lleiafrifoedd' a'r Cynulliad Cenedlaethol
7. Cyfraniad cymdeithas sifil i wleidyddiaeth ol-ddatganoledig Cymru
Y Farn Gyhoeddus yng Nghymru
8. Y farn gyhoeddus: hunaniaeth genedlaethol a dewisiadau cyfansoddiadol wedi datganoli
9. Y farn gyhoeddus a dewisiadau polisi yn y Gymru 'newydd'
10. Effaith cynrychiolaeth ar wleidyddiaeth a pholisi yn y Gymru ol-ddatganoledig

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw archwilio'r datblygiadau yng ngwleidyddiaeth Cymru ers creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n trafod gwleidyddiaeth etholiadol, gwahanol ffurfiau o gynrychiolaeth a'r farn gyhoeddus ar ol datganoli yn ogystal a pholisi agenda'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn asesu natur gymhleth gwleidyddiaeth Cymru ac ymddygiad gwleidyddol mewn Cymru ddatganoledig.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7