Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos dealltwriaeth o'r modd y mae cydnabyddiaeth, ac yn arbennig cydnabyddiaeth o wahaniaethau ethnoddiwylliannol, wedi hawlio sylw cynyddol ymhlith athronwyr gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf.
2. Trafod y modd y mae galwadau am gydnabyddiaeth ethnoddiwylliannol wedi herio modelau traddodiadol o ddinasyddiaeth sy'n seiliedig ar ddyrannu set unffurf o hawliau sifil, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd.
3. Adnabod y prif themâu a chwestiynau a fu'n sail i'r drafodaeth normadol gyfoes ynglŷn â chydnabyddiaeth ethnoddiwylliannol.
4. Cymharu a chyferbynnu'r dadleuon a gyflwynwyd gan athronwyr gwleidyddol blaenllaw ynglŷn â'r modd y dylid ymateb i fodolaeth amrywiaeth ethnoddiwylliannol.
5. Cloriannu cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth ddiwylliannol.
Cynnwys
1. Beth yw Amlddiwylliannedd?
Safbwyntiau Rhyddfrydol
2. Will Kymlicka: Amlddiwylliannedd Rhyddfrydol
3. Chandran Kukathas: Amlddiwylliannedd Libertaraidd
4. Jacob Levy: Amlddiwylliannedd Anfoddog
Safbwyntiau Amgen
5. Charles Taylor: Gwleidyddiaeth Cydnabod
6. Bhikhu Parekh: Y Deialog Rhyng-ddiwylliannol
7. Iris Marion Young: Dinasyddiaeth Amgen
Beirniadaethau
8. Susan Moller Okin: Y Feirniadaeth Ffeministaidd
9. Brian Barry: Y Feirniadaeth Egalitaraidd
10. Casgliad
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut y mae athronwyr gwleidyddol blaenllaw wedi ymateb i'r galwadau am gydnabyddiaeth a gyflwynwyd dros y degawdau diwethaf gan wahanol leiafrifoedd ethnoddiwylliannol, ynghyd â'r arferion polisi newydd a gafodd eu mabwysiadu gan wladwriaethau yn eu sgil. I ba raddau maent o'r farn fod y diwygiadau polisi hyn yn gyson â’u dehongliadau o natur y gymdeithas dda? A ydynt yn ddiwygiadau sy'n cydymffurfio ag egwyddorion allweddol megis rhyddid, cydraddoldeb a democratiaeth? Neu, a ydynt yn tramgwyddo egwyddorion o'r fath?
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7