Module Information

Cod y Modiwl
TC31540
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymarferol Annibynnol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Sesiynnau ymarfer annibynnol hyd at 16 awr yr wythnos a sesiynnau cyswllt 3 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Ymarferol Annibynnol  60%
Asesiad Semester Portfolio creadigol  40%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant yn un or agweddau ymarferol, ni ellir ailgyflwynor gwaith a fethwyd yn y ffordd arferol gan mai trwy gynhyrchiad ymarferol yr asesir y modiwl hwn. fodd bynnag, fe all y myfyriwr ddewis (1) aros yn ol am flwyddyn er mwyn ailsefyll y modiwl hwn, neu (2) fel syn gyson ag arferion gweithredur Adran, os yw myfyriwr yn methur modiwl oherwydd salwch neu amgylchiadau feddygol dilys eraill, neu am unrhyw reswm arall y dyfernir yn un dilys gan yr Adran, yna fe ellir cyflwyno traethawd yn adlewyrchu ar yr elfennau hynny or gwaith na fedrwyd eu cyflawni. fe fydd natur, hyd a chyrhaeddiad y traethawd yn cael ei benderfynu wedi trafodaeth a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgur Adran mewn perthynas ar canran o waith y methwyd ei gwblhau (hyd at uchafswm o 6000 o eiriau). Os oes unrhyw borblemaun codi parthed y trefniadau hyn, fe fydd y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgun trafod y mater gyda Deon Y Gyfadran.  60%
Asesiad Ailsefyll Gweler uchod.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gallu i greu a chynllunio Prosiect Ymarferol Annibynnol, naill ai fel unigolyn neu fel aelod a grwp' Arddangols gallu i drafod a threfnu adnoddau ac anghenion y Prosiect hwnnw yn llawn cyn dechrau'r broses waith ymarferol

Arddangos gallu i ystyried a dadansoddi'r Prosiect fel problem ynchwil ymarferol; Arddangos gallu i adnabod a chymhwyso llenyddiaeth gyd-destunol ar gyfer diffinio natur y Prosiect fel pwnc ymchwil

Arddangos gallu i weithredu'n ddisgybledig ac yn adfyfyriol tuag at nod arbenigol a bennir gan y myfyrwyr eu hunain.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i gynnig, datblygu a llunio eu cynllun ymarfer annibynnol eu hunain ac i'w weithredu, naill ai fel unigolyn neu fel aelod o grwp. Fe drafodir y cynllun ymaerfer gyda chydlunydd y modiwl, ac fe fydd y trafodaethau hynny yn sail ar gyfer diffinio a datblygu'r gwaith fel prosiect ymchwil ymarferol annibynnol. Disgwylir i'r myfyrwyr fedru diffinio cyfres o gwestiynau ynchwil perthnasol fel sail i'r gwaith ac i roi syniad clir i asesydd eu gwaith fod ganddynt reswm a modd i fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hynny trwy gyfrwng eu prosiect.

Cynnwys

Fe fydd y myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd byr yn cyflwyno cynllun ar gyfer Prosiect Ymarderol o fewn wythnos i ddechrau'r Semester, ac yn cwrdd a'u Tiwtor ar y Prosiect bum gwaith yn ystod hanner cyntaf y Semester er mwyn trafod a llywio datblygiad y prosiect fel cynllun creadigol ac ymchwil.

Disgwylir i'r myfyrwyr ddanfon amlinelliad o'u Prosiect i'w Tiwtor ymlaen llaw ar ffurf traethawd. Yna, fe fydd y Sesiynau Tiwtorial unigol yn dilyn y drefn arfaethedig ganlynol:

1. Trafod Y Prosiect arfaethedig
2. Gwerthuso natur y Prosiect mewn perthynas a Chanlyniadau ysgu'r Modiwl
3. Cyflwyno cyd-destun y prosiect fel cynllun Ymchwil-fel-Ymarfer
4. Cadarnhau'r Cwestiynau Ymchwil Canolog
5. Trafod anghenion y Prosiect o ran adnoddau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddo bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu gwaith ymarferol, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir ym ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. Gobeithir y bydd y gwaith hwn, ac unrhyw ddogfenaeth ohono, yn gweithredu fel 'showcase' ar gyfer gwaith y myfyriwr, ac yn fodd iddynt gyflwynio'u hunain i gyflogwyr
Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. Fe fydd y broses o greu gwaith creadigol annibynnol a'i drin a'i ddiffinio ar yr un pryd fel prosiect ymchwil yn her sylfaenol ac yn gofyn i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision sawl gwahanol math o ateb posibl.
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu. Hyd yn oed pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn annibynnol ac unigol, fe fydd yn rhaid iddynt drafod a rhesymoli anghenion eu Prosiect mewn perthynas a chyflenwad adnoddau'r Adran.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer gan y Tiwtor a ddosrannir iddynt, a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. Fe fydd y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil yn rhoi cyfle iddynt adfyfyrio ar eu cynnydd yn ystod y modiwl ynfwy ffurfiol, ac i werthuso rhai o ganlyniadau'r gwaith ymarferol ar y Prosiect.
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; fe asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol trwy gyfrwng y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno'r prosiect hwn; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6