Module Information

Cod y Modiwl
CYM0120
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Rhyddiaith: Ffurf
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll. 
Asesiad Semester Cadw Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu AberLearn er mwyn olrhain eu datblygiad parhaus (1,000 o eiriau).  20%
Asesiad Semester Cyfansoddi 2 darn rhyddiaith gwreiddiol (1,000 o eiriau yr un), ynghyd ag esboniad beirniadol 1,500 o eiriau i gyd-fynd â’r casgliad.  60%
Asesiad Semester Dadansoddiad o ffurf testun rhyddiaith (1,000 o eiriau).  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos eu dealltwriaeth o’u hymarferion eu hunain ym maes ffurf (y nofel neu’r stori fer, ac ati) gan ystyried eu cryfderau a’u nodweddion eu hunain fel awduron. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

dangos dealltwriaeth o’r posibiliadau sydd ar gael i awduron wrth gyflwyno deunydd ac o’r canlyniadau sy’n deillio o ddewis un ffurf rhagor nag un arall. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

dangos dealltwriaeth o’r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau; dangos ymchwil ffeithiol briodol. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

medru strwythuro a llunio stori fer, pennod o nofel, llên meicro.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn gyfle i archwilio ac i ddatblygu amcanion creu ffuglen ac i drafod gwaith ar-y-gweill mewn awyrgylch beirniadol, adeiladol a chreadigol. Canolbwyntir ar ffurfiau llenyddol. Cynigir cyfres o ddarlithiau, seminarau a gweithdai dan fugeiliaeth y staff a llenorion gwadd a fydd yn ystyried rhyddiaith fel ffurf ar ymchwil ddiwylliannol, a hynny yn sgil cysylltiad nifer o awduron o arwyddocâd cenedlaethol â’r Adran: T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams, Gwenallt, Bobi Jones, Robin Llywelyn, Owen Martell, Catrin Dafydd.

Cynigir yr arlwy ganlynol mewn sesiynau dwyawr (darlith a seminar/gweithdy):
Ffurf
• Rhagarweiniad (1 sesiwn dwyawr)
• confensiynau’r stori fer (4 sesiwn dwyawr);
• y nofel (2 sesiwn dwyawr);
• y nofelig (2 sesiwn dwyawr);
• llên meicro (1 sesiwn dwyawr).

Nid anelir y modiwl hwn at ddechreuwyr pur yn y maes. Disgwylir y bydd gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn rhyddiaith yn barod ac y byddant eisoes wedi cynhyrchu peth gwaith creadigol. E.e. mae’n bosib y byddai rhai myfyrwyr wedi cyfansoddi straeon byrion ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol neu ar gyfer y modiwl Ysgrifennu Creadigol israddedig.

Nod

Trwy ganolbwyntio ar ffurf, bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r posibiliadau creadigol sydd ar gael i awduron rhyddiaith cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu creadigrwydd.

Disgrifiad cryno

Rhesymeg y modiwl dewisol hwn yw bod angen sylfaen theoretig gadarn, yn ogystal â chyfleoedd ymarferol, ar y rhai sy’n dymuno datblygu eu dawn i lunio rhyddiaith.

Bydd y modiwl ymarferol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu rhyddiaith ac yn rhoi canllaw iddynt ymateb i ofynion llenyddol yn ôl natur y testun, y gynulleidfa, y genre a’r arddull.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch rhyddiaith a’i ffurfiau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod.
Datrys Problemau Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig.
Gwaith Tim Na.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau rhyddiaith yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol eu tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) rhyddiaith i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Taliesin, Tu Chwith, ‘Y Neuadd’
Sgiliau ymchwil Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar gyfer y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau rhyddiaith o wahanol gyfnodau hanesyddol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7