Module Information

Cod y Modiwl
CYM0500
Teitl y Modiwl
Gweithdai Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dylid ailgyflwyno gwaith na lwyddodd i gyrraedd y marc llwyddo. 
Asesiad Semester Pecyn  Pecyn: darn creadigol gorffenedig (1,000 o eiriau) ac ymateb beirniadol iddo (750 o eiriau) a ddeilliodd o ddau o’r gweithdai ar y modiwl hwn, sef 3,500 o eiriau i gyd.  70%
Asesiad Semester Dyddlyfr hunanfyfyriol  Dyddlyfr hunanfyfyriol ar BwrddDu ar y gyfres o weithdai ar ei hyd (1,500 o eiriau).  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar themâu rhagosodedig y gweithdai.

Medru trafod gwaith ar y gweill yn ystod y gweithdy ac ymateb i’r feirniadaeth adeiladol honno.

Cyfrannu yn briodol ar lafar at drafodaethau llenyddol/beirniadol yn ystod y gweithdai.

Llunio dau ddarn o waith creadigol gorffenedig, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.

Disgrifiad cryno

Y rhesymeg dros lunio’r modiwl creiddiol hwn yw pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach. Trefnir pedwar o weithdai dwys ar amryw destunau perthnasol a fydd yn elwa ar arbenigedd siaradwyr gwadd. Bydd cyfle hefyd i fyfyrwyr rwydweithio gyda’r awduron a chynrychiolwyr o’r diwydiant a fydd yn cyfrannu i’r modiwl hwn.

Cyfres o weithdai ar agweddau ymarferol a chreadigol y diwydiant cyhoeddi creadigol, gyda chymorth siaradwyr gwadd o’r diwydiant creadigol a chyhoeddi yng Nghymru.

Cynnwys

Bwriedir cynnal pedwar o weithdai undydd (10.00–16.00) dros y ddau semester. Bydd y gweithdai yn dibynnu ar argaeledd siaradwyr gwadd, ac ymghynhorir â’r myfyrwyr wrth eu trefnu. Mae sgôp hefyd i ddyfeisio gweithdai newydd a’u teilwra yn unol ag anghenion neu ddymuniad y myfyrwyr sy’n dilyn y cynllun MA arfaethedig. Nodir isod rai pynciau a chyfranwyr posibl:

• Llên meicro: Mihangel Morgan (mewnol); Dylan Iorwerth (allanol).
• Ysgrifennu i blant: Huw Meirion Edwards (mewnol); Gordon Jones, Manon Steffan Ros, Angharad Tomos (allanol).
• Cwrdd â'r golygydd a golygu creadigol: Huw Meirion Edwards a Cathryn Charnell-White (mewnol); Elin ap Hywel (allanol), Nia Peris, Mererid Wyn James (Y Lolfa), Marian Beech-Hughes, Anwen Pierce (CLlC) Cathryn Gwyn (Gomer)
• Nofelau hanesyddol: Mihangel Morgan, T. Robin Chapman (mewnol); Wiliam Owen Roberts (allanol)
• Llên natur a'r amgylchedd; tirluniau emosiynol: Cathryn Charnell-White (mewnol); Siân Melangell Dafydd, Damian Walford Davies, Gwyn Thomas (allanol).
• Y nofel gyntaf: Mihangel Morgan, Miriam Elin Jones (mewnol); Caryl Lewis, Owen Martell, Manon Steffan Ros, Catrin Dafydd (allanol).
• Ysgrifennu yn y ddwy iaith: Owen Martell, Catrin Dafydd, Gwyneth Lewis, Fflur Dafydd; Jon Gower, Tony Bianchi (allanol).
• Syrjeri cynghanedd: Huw Meirion Edwards, Hywel Griffiths (mewnol); Eurig Salisbury (allanol)
• Yn y dyfodol, gellid cynnal gweithdy sgriptio ar y cyd gyda Theatr, Ffilm a Theledu.

Disgwylir i fyfyrwyr baratoi darn o waith creadigol (naill ai farddoniaeth neu ryddiaith) ar gyfer pob gweithdy, i’w gyflwyno ymlaen llaw. Bydd y gweithdy yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr mewnol a siaradwyr gwadd; cyfle i holi cwestiynau ac i drafod y gwaith creadigol yng ngoleuni’r sgyrsiau; cyfle am adborth unigol gyda’r cyfranwyr mewnol ac allanol.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno dimensiwn ychwanegol i’r cynllun MA ar ffurf pynciau a themâu nad ydynt, o reidrwydd, yn eistedd yn daclus â rhesymeg modiwlau eraill y cynllun. Mae’r fformat gweithdy dwys a arweinir ar y cyd gan siaradwyr mewnol ac allanol yn caniatáu pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg a’r diwydiant creadigol cenedlaethol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun thema benodol y gweithdy.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4.
Datrys Problemau Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod y gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gydag arbenigwyr mewnol ac allanol; bydd yr adroddiad beirniadol ar bob tasg ysgrifenedig yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig. Bydd y dasg hunanfyfyriol yn gyfle i roi sylw i berfformiad a datblygiad personol yr unigolyn.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn benodol i’r pwnc.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio a pharatoi darn o waith creadigol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7