Module Information

Cod y Modiwl
DA10610
Teitl y Modiwl
Amgylcheddau Wyneb y Ddaear
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar-lein aml-ddewis.  100%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Cywaith (grwp) sydd yn cynnwys cyflwyniad llafar  Arholiad ar-lein aml-ddewis.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. arddangos dealltwriaeth o brosesau geomorffig sylfaenol megis erydiad, cludiant a dyddodiad.
2. arddangos dealltwriaeth o'r prosesau, tirffurfiau a'r strategaethau rheoli sy'r gysylltiedig ag amgylcheddau amrywiol.
3. arddangos dealltwriaeth o sut y gellir adlunio esblygiad tirwedd ac, hyd yn oed, ei ragdybio wrth arsylwi prosesau a thirffurfiau cyfoes.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad gwerthfawr i'r prosesau dynamig sy'n gweithredu ar wyneb y ddaear. Pwysleisir yr angen i gyfuno dealltwriaeth o brosesau cyfoes gyda dealltwriaeth o dirweddau cyfoes a hynafol. Cyflwynir a dadansoddir amryw o amgylcheddau dros wyneb y ddaear, sylwir ar elfennau tirwedd, y prosesau sy'n gweithredu a'r problemau a wynebir wrth geisio eu rheoli. Bydd y darlithoedd yn dilyn drefn ganlynol:

Cynnwys

Darlithoedd:

Darlith 1: Trosolwg Byd-eang
Darlith 2-4: Amgylcheddau Afonol
Darlith: 5-7: Amgylcheddau Rhewlifol
Darlith 8-10: Amgylcheddau Cras

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir y myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y darlithoedd, e.e. mewn grwpiau trafod ac fel unigolion ond ni asesir hyn yn ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni asesir hyn yn ffurfiol.
Datrys Problemau Datblygir hyn wrth i’r myfyrwyr ddehongli a pharatoi ar gyfer yr arholiad. Bydd rhai o’r cwestiynau yn gofyn am ymateb i ddiagramau, lluniau a mapiau a bydd hyn yn datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gwaith Tim Ni asesir hyn yn ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ni asesir hyn y ffurfiol, ond mi fydd angen i’r myfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am hyn wrth baratoi at yr arholiad.
Rhifedd Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddeall a dehongli elfennau rhifyddol y darlithoedd er mwyn medru ateb rhai o gwestiynau’r arholiad.
Sgiliau ymchwil Anogir y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth ddarllen erthyglau a gwerslyfrau academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn cwblhau’r arholiad, ac wrth ddarllen erthyglau academaidd. Anogir y myfyrwyr i astudio cronfeydd data ar-lein yn ymwneud gyda geomorffoleg.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Summerfield, M. (1991) Global Geomorphology Longman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4