Module Information

Cod y Modiwl
DA21210
Teitl y Modiwl
Profiad Gwaith Daearyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 6 awr
Sesiwn Ymarferol 50 awr (profiad gwaith)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno?r Traethawd o 1,500 gair. 
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno?r Adroddiad o 3,000 o eiriau. 
Asesiad Semester Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a?r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny.  25%
Asesiad Semester Ail-gyflwynor Adroddiad o 5,000 o eiriau.  Adroddiad o 3,000 o eiriau.  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Cwblhau hunan-asesiad o'u medrau cyflogadwyedd, gan nodi eu cryfderau a'u gwendidau.

Trefnu (gyda chymorth staff SDGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) a chwblhau cyfnod o brofiad gwaith pwrpasol o o leiaf 50 awr.

Arddangos dealltwriaeth o'r hyn a wneir yn y sefydliad lle'u cyflogir, sut y'i rheolir a chyfraniad y myfyriwr i'r sefydliad.

Arddangos gallu i gymhwyso eu sgiliau a'u medrau mewn sefyllfa waith ac i werthuso hyn.

Cynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer meithrin eu medrau cyflogadwyedd ymhellach.

Adlewyrchu ar addasrwydd daearyddiaeth, fel disgyblaeth, i gyfrannu at gymdeithas, ac adnabod achosion moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i drefnu (gyda chymorth staff SDGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) cyfnod o 50 awr o brofiad gwaith pwrpasol rywdro rhwng diwedd blwyddyn 1 a diwedd blwyddyn 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i fyfyrwyr i fynychu eu cyfnod o brofiad gwaith un ai yn ystod eu gwyliau neu - ar ffurf rhan amser- yn ystod y tymor. Disgwylir i'r myfyrwyr i ddadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Bydd raid iddynt baratoi adroddiad o 5,000 o eiriau ar sail y themau hyn a chaiff hwn ei asesu (90% o'r marc). Caiff cyfraniad y myfyriwr i'r cyfnod o brofiad gwaith ei asesu gan y cyflogwr (10% o'r marc).

Cynnwys

1. Cynhelir dwy sesiwn paratoi ar ddiwedd Rhan 1 ar gyfer myfyrwyr sydd wedi rhag-gofrestru ar gyfer y modiwl (cyfanswm o 4 awr). Defnyddir y sesiynau hyn fel cyfle i'r myfyrwyr i asesu eu medrau cyflogadwyedd ac i drafod lleoliad posib ar gyfer eu cyfnod o brofiad gwaith.

2. Bydd raid i'r myfyrwyr i fynychu cyfnod o brofiad gwaith o o leiaf 50 awr rhwng diwedd Lefel 1 a diwedd ail semestr Lefel 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i'r myfyrwyr i gadw mewn cysylltiad gyda chydlynydd y modiwl yn ystod y cyfnod hwn drwy ebost. Yn ogystal, bydd cydlynydd y modiwl yn ymweld a^'r myfyrwyr un waith yn ystod y cyfnod hwn.

3. Ar o^l cwblhau'r cyfnod o brofiad gwaith, cynhelir cyfarfod o 2 awr er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i drafod a gwerthuso eu profiadau ar lafar.

4. Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gwblhau adroddiad o 5,000 o eiriau a fydd yn dadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Ceir cyfle yn yr adroddiad hwn hefyd i greu cynllun gweithredu ar gyfer datblygu medrau cyflogadwyedd y myfyriwr ymhellach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu meithrin wrth gwblhau'r adroddiad. Bydd sgiliau cyfathrebu ar lafar yn cael eu meithrin yn ystod y seminarau. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau cyfathrebu o bob math.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Amcan y modiwl yn ei gyfanrwydd yw i annog myfyrwyr i ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd ac asesir hwn yn yr adroddiad a'r asesiad gan y cyflogwr.
Datrys Problemau Bydd raid i'r myfyrwyr drefnu (gyda chymorth staff) lleoliad addas a phwrpasol ar gyfer eu profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i ddatrys problemau.
Gwaith Tim Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath. Caiff hwn ei asesu gan y cyflogwr.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gymhwyso eu medrau dysgu i sefyllfa waith. Caiff y medrau hyn eu hasesu gan y cyflogwr. Un o sgil-effeithiau'r modiwl fydd gwella dysgu a perfformiad y myfyrwyr wrth iddynt drosglwyddo agwedd mwy proffesiynol tuag at eu hastudiaethau o fyd gwaith i'r byd academaidd.
Rhifedd Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath.
Sgiliau pwnc penodol Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau penodol i Ddaearyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyfle i ddefnyddio sgiliau ymchwil wrth drefnu'r profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau ymchwilio.
Technoleg Gwybodaeth Bydd raid i'r myfyrywr i gynhyrchu adroddiad graenus a fydd yn dadansoddi eu cyfnod o brofiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau technoleg gwybodaeth.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Brockbank, A. a McGill, I. (1998) Facilitating Reflective Learning in HE (Gwasg y Brifysgol Agored) Chwilio Primo Guirdhamn, M. (1995) Interpersonal Skills at Work Prentice-Hall Chwilio Primo Longson, S. (1999) Making Work Experience Count How to Books Chwilio Primo Mumford, A., Pedlar, M. a Boydell, T. (1998) Learing to Learn and Managing Self Development in Organizations Prentice-Hall Chwilio Primo Reeves, T. (1994) Managing Effectively: Developing Yourself Through Work Experience Butterworth-Heinemann Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5