Module Information

Cod y Modiwl
DA32220
Teitl y Modiwl
Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 awr
Sesiwn Ymarferol 10 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau a fydd yn gwerthusor themau a drafodwyd yn Rhan 1  50%
Asesiad Semester Cynhyrchu poster academaidd a fydd yn trafod arwyddocad cenedlaetholdeb mewn un maes polisi  30%
Asesiad Semester Creu blog (5 cyfraniad gyda chyfanswm o o leiaf 1,500 o eiriau) a fydd yn trafod esiamplau cyfredol o arwyddocad cenedlaetholdeb  20%
Asesiad Ailsefyll Bydd raid ail-gyflwynor elfennau a fethwyd. Ni ellir ail-sefyll y elfennau a baswyd ond, yn hytrach, defnyddir y marc gwreiddiol ar gyfer yr elfen honno.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.

Trafod yn feirniadol dehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.

Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.

Cynhyrchu poster academaidd o safon uchel.

Creu blog o safon uchel.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.

Asesir y modiwl trwy draethawd 3,000 o eiriau (50%), a fydd yn ffocysu ar y syniadau mwy cysyniadol a gyflwynwyd yn Rhan 1, poster academaidd (30%) a fydd yn canolbwyntio ar arwyddocad y cysyniadau hyn ar gyfer deall cenedlaetholdeb mewn un maes polisi penodol, a blog, lle bydd gofyn i'r myfyrwyr i ysgrifennu 5 cyfraniad sy'n dod at 1,500 o eiriau lle byddant yn sylwebu ar esiamplau cyfoes o arwyddocad cenedlaetholdeb (20%).

Cynnwys

Rhan 1: Cynhyrchu'r genedl berthynol
1. Cyflwyniad i'r genedl - o Westphalia at y presennol
2. Cofnodi'r genedl: tirlun, cof, a phwer
3. Y genedl rhwydweithiedig I: actorion, rhwydweithiau, a diaspora
4. Y genedl rhwydweithiedig II: nodau, lleoedd, a llifau
5. Ffinio'r genedl: cynhyrchiad beunyddiol tiriogaeth, gofod, a graddfa

Rhan 2: Deall cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn'
6. Creu cenhedloedd: swyddogoli a sefydliadu
7. Dinasyddiaeth genedlaethol: ffurfioli a negodi aelodaeth
8. Peiriau dad-eni: amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol
9. Brandio'r genedl: ad-nwyddo, globaleiddio, a chystadleuaeth
10. Celfyddyd a chenedlaetholdeb: darganfod einioes y genedl
11. Cyflwyniadau poster

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith
Datrys Problemau Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Gwaith Tim Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol
Rhifedd Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Calhoun, C (1997) Nationalism. Buckingham: Open University Press Chwilio Primo Edensor, T. (2002) National identity, popular culture and everyday life Oxford: Berg Chwilio Primo Paasi, A. (1996) Territories, boundaries and consciousness: the changing geographies of the Finnish-Russian border. Chichester: John Wiley Chwilio Primo Agnew, J. (1994) Review of International Political Economy The territorial trap: the territorial assumptions of international relations theory. 1: 53-80 Chwilio Primo Amin, A. (2004) Geografiska Annaler Regions unbound: towards a new politics of place. 86B (1): 33-44 Chwilio Primo Jones, R. and P. Merriman. (2009) Political Geography Banal, hot and everyday nationalism: bilingual roadsigns in Wales. 28 (2): 164-73 Chwilio Primo Latour, B. (1996) Mind, Culture and Activity On interobjectivity 3 (3): 228-45 Chwilio Primo Law, J. (1992) Systems Practice Notes on the theory of the actor-network: ordering, strategy, and heterogeneity. 5 (4): 379-93 Chwilio Primo Merriman, P. and R. Jones. (2009) Journal of Historical Geography "Symbols of justice": the Welsh Language Society's campaign for bilingual road signs in Wales, 1967-1980. 35 (3): 350-75 Chwilio Primo Murdoch, J. (2009) Journal of Historical Geography Towards a geography of heterogeneous associations. 35 (3): 350-75 Chwilio Primo Murdoch, J. (1997) Progress in Human Geography Towards a geography of heterogeneous associations. 21 (3): 321-37 Chwilio Primo Nash, C (1999) Institute of British Geographers Irish place names: post-colonial locations. 24 (4): 457-480 Chwilio Primo Penrose, J. (2003) Nations and Nationalism Nations, states and homelands: territory and territoriality in nationalist thought. 8 (2): 277-97 Chwilio Primo Yiftachel, O (2002) Geopolitics Territory as the kernel of nationalism. 7 (2): 215-248. Chwilio Primo Zimmer, O. (2003) Nations and Nationalism Boundary mechanisms and symbolic resources: towards a process-oriented approach to national identity. Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6