Module Information

Cod y Modiwl
FGM5800
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
PH37540 neu FG37540
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol Gwaith prosiect yn ystod oriau labordy arferol (264 awr)
Seminarau / Tiwtorialau Ymgynghori rheolaidd gyda goruchwylydd prosiect (6 awr)
Eraill Cyflwyniadau llafar (5 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.)  10%
Asesiad Semester Adolygiad Llyfryddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  15%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg)  15%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  60%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:

1. Dangos dealltwriaeth fanwl o'r ffiseg yn eu testun astudio.
2. Adolygu'r datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil dan sylw fel a gofnodir yn y llyfryddiaeth a arfarnwyd.
3. Cynllunio a gweithredu prif brosiect ymchwil.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun.
5. Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol.

Cynnwys

Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.

Disgrifiad cryno

Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod cynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil y sefydliad o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7