Module Information

Cod y Modiwl
GF34500
Teitl y Modiwl
Cyfraith Gyhoeddus
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
LA34530 , LA30420
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
LA15710 neu GF14230 neu LA14230 neu LA34230 neu GF14720 neu LA14720 neu GF34720 neu LA34720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 2 gweithdy dosbarth cyfan
Darlithoedd Cyfanswm o 46 awr
Seminarau / Tiwtorialau 6 x seminar un awr
 
Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Exam  67%
Asesiad Semester Essay (2000 words)  33%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Exam  67%
Asesiad Ailsefyll Essay (2000 words)  33%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro sut y mae trefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod cynigion ar gyfer diwygio;
2. Dadansoddi'r drefn bresennol a gwerthuso'r cryfderau a'r gwendidau;
3. Trafod deunyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddiadol;
4. Adnabod problemau yn y drefn gyfansoddiadol a defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer awgrymu atebion posibl (er enghraifft, gan gyfeirio at ddeunyddiau cymharol);
5. Addasu egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd o ffaith er mwyn awgrymu atebion posibl i achosion;
6. Adnabod a gwerthfawrogi'r goblygiadau i gyfraith gyfansoddiadol ddatblygiadau cyffredinol cyfraith a gwleidyddiaeth, a dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaidd / ryngwladol yn ogystal a'r rhyngweithio rhwng elfennau canolog a datganoledig y cyfansoddiad.
7. Dangos gwybodaeth o reoliad gweithgareddau gweinyddol ym Mhrydain a medru dadansoddi deddfwriaeth ac achosion allweddol.
8. Dangos dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rol a phwerau cyfreithiol y pwyllgor gwaith.
9. Dangos dealltwriaeth o'r proses adolygu barnwrol a'i ganlyniadau.

Cynnwys

Yn gonfensiynol, rhennir cyfraith gyhoeddus yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Themau pwysig y cwrs yw a yw hynny yn cael effaith yn ymarferol a'r ffordd y mae'r Cyfansoddiad wedi addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r hyn y mae yn ei olygu, pam ei fod felly ac a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol ymhlith y cwestiynau y byddwn yn edrych arnynt yn y cwrs hwn sy'n ceisio cyflwyno myfyrwyr i astudio cyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol ac i athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig. Mae cyfraith weinyddol yn ymwneud ag arfer grym y wlad, ac effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar y dinesydd yn cynnwys addysg, rhedeg ein carchardai, cynllunio, trafnidiaeth, system budd-daliadau lles a llawer mwy.

Disgrifiad cryno

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi, a thrafod, mewn seminarau. (Asesu? Ie (ysgrifenedig yn unig))
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion
Sgiliau ymchwil Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Technoleg Gwybodaeth Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6