Module Information

Cod y Modiwl
HA30810
Teitl y Modiwl
Llunio Hanes B
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 15 x sesiynau 50 munud
Seminarau / Tiwtorialau 5 x sesiynau 50 munud
Seminarau / Tiwtorialau 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 24 Awr   Papur arholiad 24 awr  50%
Arholiad Semester 24 Awr   1 arholiad agored 24 awr (1 cwestiwn i'w ateb)  50%
Asesiad Ailsefyll Unrhyw waith ysgrifenedig absennol.  Dylai unrhyw waith cwrs a ailgyflwynir fod ar destun gwahanol i'r hyn a fethodd.  50%
Asesiad Semester 1 traethawd 1500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth o sut a pham y daeth Hanes yn ddisgyblaeth fodern academaidd ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth broffesiynol.




Arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes academaidd a ffyrdd eraill o ddehongli a defnyddio'r gorffennol.

Ystyried mewn cyd-destun ehangach ysgrifennu hanesyddol a astudiwyd ar gyfer modiwlau eraill.

Arddangos cynefindra â'r prif dueddiadau yn yr astudiaeth o hanes dros amser, ynghyd â dylanwadau haneswyr penodol ac ysgolion mewn hanes.

Dangos gallu i ystyried yn feirniadol ystod o dystiolaeth a'i defnyddio i lunio dadl effeithiol.

Nod

1. I ddarparu modiwl ar gyfer myfyrwyr anrhydedd cyfun i'w cymell i ystyried y ffordd yr ymchiliwyd a chynhyrchwyd hanes.
2. I sicrhau ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o gyd-destun ehangach y ddisgyblaeth y maent yn astudio.
3. I annog myfyrwyr i wneud defnydd o'r ymwybyddiaeth a feithrinid yn y modiwl hwn i'w cynorthwyo gyda gweddill eu hastudiaethau hanesyddol.

Cynnwys


DARLITHOEDD (2 yr wythnos) o'r canlynol:

Interdisciplinary approaches

1. Literature and History
2. International Relations and History
3. Anthropology and History
4. History and the Sociological Imagination
5. Film and History

The use and abuse of History

1. Angkor Wat and the Cambodian Genocide
2. Ireland and the politics of the past
3. Nazi Germany and the Abuse of History
4. The mythologizing of the Magna Carta
5. Imagining a national past in medieval Europe

History in past societies

1. Chinese chronicles
2. Monks and the writing of the past
3. Religious texts as Historical documentation
4. Inscriptions as a commentary on the past
5. Architecture and reverence to the past


SEMINARAU
Dewisir pum pwnc gan y tiwtor seminar yn ôl arbenigedd cyfnod, ac fe ganolbwyntir ar nifer o destunau, er enghraifft:

Anthropoleg a Keith Thomas, Religion and the Decline of Magic
Cymdeithaseg a Max Weber, Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism
Adolygiadaeth yn Iwerddon a Kevin Whelan, 1798: A Bicentennial Perspective
Rhyddid Eingl-Sacsonaidd, yr iau Normanaidd a Thomas Paine, Rights of Man
Rhyfel Annibyniaeth America a Gibbon, Decline and Fall

Disgrifiad cryno

Bu llanw a thrai cyson o fewn hanes fel disgyblaeth, gydag amrywiol syniadau, agweddau a dulliau yn datblygu ymhlith ymchwilwyr ac awduron. O fewn y modiwl hwn, y bwriad yw i archwilio'r newidiadau a datblygiadau o fewn y ddisgyblaeth drwy ystyried nifer o enghreifftiau penodol. Edrychir ar nifer o wahanol ddatblygiadau a ddaeth yn ddylanwadol ar wahanol adegau, ynghyd ag effaith rhai testunau arwyddocaol a newidiodd y ffordd y gwnaeth haneswyr ymdrin â rhai pynciau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Y mae datblygu sgiliau cyfathrebu drwy ddysgu sut i gyflwyno dadl effeithiol yn elfen allweddol o’r modiwl. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig fel rhan o'r gwaith cwrs a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn datblygu rhychwant o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser a sgiliau cyfathrebu, a all eu helpu i adnabod eu cryfderau personol wrth ystyried llwybrau posib o ran gyrfa.
Datrys Problemau Anogir myfyrwyr i ystyried y math o broblemau sy'n wynebu haneswyr gyda gwahanol agweddau o'r ddisgyblaeth ac i ystyried sut i fynd ati i ddatrys y problemau hynny.
Gwaith Tim Y mae potensial i ddatblygu hyn drwy gyfrannu i'r seminarau grwpiau bychain.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ar eu gwaith asesiedig ym mhob semester a fydd yn eu cynorthwyo i ystyried a chryfhau eu perfformiad yn ystod y modiwl.
Rhifedd Heb fod yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o sut y mae haneswyr, proffesiynol neu beidio, wedi ymdrin â'r ddisgyblaeth yn y gorffennol, a ddylai gyfoethogi'u gwaith darllen ar gyfer modiwlau eraill.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddysgu lleoli ac adnabod gwybodaeth berthnasol i'w cynorthwyo wrth gwblhau eu gwaith.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o adnoddau priodol arlein, yn ogystal â Blackboard, cofnodi darlithoedd a meddalwedd prosesu geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6