Module Information

Module Identifier
HP37330
Module Title
Gwaith, Cymuned a Gwleidyddiaeth ym Meysydd Glo Prydain, C. 1850-1947
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials 10 x sesiynau 3 awr
Seminars / Tutorials 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Semester Assessment Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Semester Assessment 1 x asesiad dogfennau 1,500 gair  10%
Semester Exam 2 Hours   (1 x arholiad 2 awr)  40%
Supplementary Assessment Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Supplementary Assessment Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Supplementary Assessment 1 x asesiad atodol (ail-sefyll) dogfennau 1,500 gair  10%
Supplementary Exam 2 Hours   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain.


Deall a gwerthuso gwahanol drafodaethau a dadansoddiadau a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol.

Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal â gyda ei gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda'r grŵp.

Aims

Mae pynciau arbennigol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr yn eu trydedd blwyddyn i astudio cyfnod pennodol mewn dyfnder, gan wneud defnydd helaeth o ffynonhellau cynradd. Mae'r pynciau yn cael eu dysgu'n ddwys, a bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos lefel uchel o wybodaeth, creadigrwydd a gofal. Ynghyd â'r traethawd hir, â'r modiwl cyffredinol ar broblemau hanesyddol, mae'r pynciau arbennigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddangos aeddfedrwydd eu sgiliau hanesyddol ac academaidd. Mae'r dewis o bynciau arbennigol yn adlewyrchu'r rhychwant o ddulliau dysgu a diddordebau ymchwil ymysg staff yr adran. Fel mewn modwlau craidd eraill, mae dewis o gyfnodau hanesyddol ar gael

Content


1. Cyflwyniad: Glo a Meysydd Glo yn Hanes Prydain
2. Gwaith
3. Perygl, Marwolaeth a Thrychinebau
4. Cyflogwyr
5. Undebau Llafur
6. Cymunedau’r Meysydd Glo
7. Menywod
8. Rhywedd
9. Gwleidyddiaeth
10. Gwladoli’r Diwydiant

Brief description

Y mae'r modiwl hwn yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol i astudio hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant ym 1947. Mae'r sesiynau cyntaf yn ystyried gwaith glowyr a'r damweiniau a'r trychinebau a oedd mor gyffredin yn y diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y seminarau dilynnol yn canolbwyntio ar gyflogwyr y diwydiant, pwy sydd yn cael eu portreadu'n aml iawn fel cyfalafwyr cas nad yw'n poeni llawer am eu gweithwyr truenus, ac wedyn undebau llafur, sydd yn eu tro wedi cael eu darlunio'n aml fel elfennau peryglus a wnaeth danseilio llwyddiant y diwydiant. Yn y sesiynau olaf, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar fenywod a'r berthynas rhwng y rhywiau yng nghymunedau'r glofeydd cyn symud ymlaen i ystyried natur y cymunedau a geid yn y meysydd glo. Mae'r seminar olaf yn canolbwyntio ar wladoliad y diwydiant.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Subject Specific Skills Datblygu gwybodaeth agos o nifer o ffynnonhellau o fewn hanes y cyfnod modern gan gynnwys dogfennau cyhoeddiedig ac heb eu cyhoeddi; y gallu i ddefnyddio deunydd ymchwil priodol yn effeithiol.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 6