Module Information

Cod y Modiwl
FG35410
Teitl y Modiwl
Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
PH15720 neu PH15510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Sesiynau ymgynghori wythnosol gyda goruchwylydd yr arbrawf
Sesiwn Ymarferol Gwaith arbrofol yn ystod oriau labordy arferol.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp  20%
Asesiad Semester Adroddiad Unigol  60%
Asesiad Ailsefyll Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddiaeth  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Chwilio am bapurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i'r gwaith arbrofol a chyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd gyffelyb.

Cynllunio ac chyflawni arbrawf ac yna dadansoddi'r data a gwerthuso'r arbrawf gydag ond ychydig fewnbwn gan y staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau labordy a ddatblygwyd yn gynharach yn ystod y cwrs.

Gweithio mewn grwp i gyfathrebu manylion a chanlyniadau arbrawf mewn cyflwyniad llafar.

Ysgrifennu adroddiad unigol ar arbrawf.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhagarweiniad i'r modiwl prosiect blwyddyn-olaf ac yn rhoi profiad ac ymdeimlad i'r myfyrwyr o ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad ar gyfer gyrfa myfyriwr. Disgwylir i'r myfyriwr gyflawni arbrawf estynedig yn ystod y semester. Byddant yn gweithio mewn grŵp ac mae'n ofynnol iddynt: ymchwilio cefndir yr arbrawf, edrych ar y cyfarpar sydd ar gael; rhesymu i ddatblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi canlyniadau'r arbrawf. Caiff y modiwl ei asesu mewn tair ffordd: yn gyntaf bydd y grwp yn cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail bydd y grwp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Cyflwynir yr adroddiad yn unigol.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • deall disgrifiad byr o'r arbrawf
  • ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrawf
  • dod yn gyfarwydd ag offer a data arbrofol
  • rheoli offer yn electronig a thrwy feddalwedd
  • dadansoddi a modelu data
  • cyfathrebu canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • gweithio fel rhan o dim.
Mae'r modiwl yn rhedeg trwy gydol y semester ac fe'i cefnogir gan sesiynau tiwtorial rheolaidd. Darperir goruchwyliaeth neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt roi cyflwyniad llafar yn Gymraeg.

Nod

Nod y modiwl yw datblygu'r sgiliau dadansoddol ac arbrofol sy'n angenrheidiol i gyflawni arbrofion ffiseg estynedig, ynghyd â sgiliau gwerthuso beirniadol a chyfathrebu canlyniadau. Mae'r sgiliau hyn yn ffurfio rhan hanfodol o hyfforddiant ffisegydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae angen sgiliau cyfathrebu a llythrennedd er mwyn cyflwyno'r canfyddiadau mewn cyflwyniad grwp ac mewn adroddiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae nifer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol.
Datrys Problemau Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol er mwyn ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau arbrofol yn unol a hynny.
Gwaith Tim Caiff yr ymchwiliad arbrofol a'r cyflwyniad eu gwneud mewn grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy adlewyrchu ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach mae'r myfyriwr yn datblygu eu dysgu a'u perfformiadau eu hunain.
Rhifedd Mae cymhwyso rhif yn ganolog yn y dadansoddiad o ddata arbrofol, gan gynnwys trin cyfeiliornadau
Sgiliau pwnc penodol Datblygir ac asesir sgiliau pynciol, ond dibynna'r manylion ar destun neilltuol yr arbrawf estynedig.
Sgiliau ymchwil Mae angen sgiliau ymchwil i gynllunio arbrofion a phrofi damcaniaethau.
Technoleg Gwybodaeth Mae offer a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni arbrawf, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6