Module Information

Cod y Modiwl
GWM7520
Teitl y Modiwl
Datganoli ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 traethawd 2,000 o eiriau  30%
Asesiad Semester 1 x dyddiadur dadansoddol 2,500 gair  40%
Asesiad Semester 1 adroddiad 2,000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos, trwy waith ysgrifenedig, y gallu i berthnasu esiamplau penodol o'r profiad ymarferol o wleidyddiaeth Cymru i'r dadleuon a'r materion cyfoes yn y llenyddiaeth academaidd ehangach ar Gymru wedi datganoli.

Disgrifio a dadansoddi strwythurau trefniadaethol a llunio penderfyniadau y sefydliad lleoliad gwaith.

Trafod gweithdrefnau'r Cynulliad Cenedlaethol a dadansoddi ei berthynas ag ystod o sefydliadau sy'r weithgar yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi datganoli.

Enghreifftio a gwerthuso'r amrywiol sianeli o ddylanwadu ar y Cynulliad Cenedlaethol a'r brosesau llunio polisi.

Trafod eu sgiliau trosglwyddadwy ysgrifenedig a llafar eu hunain ac adnabod y ffyrdd y bu i'r lleoliad gwaith eu cryfhau.

Cynnwys

Bwriad y modiwl yw cynnig i fyfyrwyr brofiad ymarferol o'r modd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio ar ol datganoli. Rhydd gyfle unigryw i ddatblygu ac ehangu sgiliau ysgrifenedig a llafar trosglwyddadwy. Bydd y myfyrwyr yn gweithio i sefydliad sy'n uniongyrchol gysylltiedig a gwleidyddiaeth Cymru, a chant y cyfle i gyfrannu i weithgareddau, tasgau, prosiectau neu unrhyw waith arall sydd gan y sefydliad, gyda chaniatad y Cynullydd Modiwl. Bydd y Cynullydd yn cadw mewn cysylltiad wythnosol a'r myfyriwr trwy e-bost, yn cysylltu a Rheolwr Llinell y myfyriwr yn y lleoliad ac yn ymweld a'r lle gwaith unwaith yn ystod y cyfnod. Mae'r canlynol eisoes wedi cytuno'r amodol i gynnig lleoliadau gwaith: Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Seneddol y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Uned Materion Gwleidyddol y BBC, Morgan and Cole, a Grayling Public Relations.

Disgwylir i fyfyrwyr gadw cofnod dadansoddol a ffeithiol yn ystod cyfnod y lleoliad gan nodi aseiniadau ac apwyntiadau, cyfarfodydd a derbyniadau a fynychwyd, a chaiff un o'r asesiadau ei seilio ar hyn.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynyddu a dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o wleidyddiaeth Cymru a gafwyd ar fodiwlau eraill ar y cwrs, yn enwedig GWM 1630 Datganoli a Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy gynnig profiad gwaith ymarferol mewn sefydliad sy'n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth Cymru o ddydd i ddydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr dreulio cyfnod yn gweithio mewn sefydliad sy'n chwarae rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru wedi datganoli ac felly'n rhoi dealltwriaeth well iddynt o'r math o yrfa allai fod o'u blaen wedi gorffen eu hastudiaethau.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau.
Gwaith Tim Yn ystod y profiad gwaith disgwylir i fyfyrwyr setlo mewn amgylchedd gwaith newydd a chwblhau'r tasgau ar eu cyfer. Golyga hyn gefnogi gwaith staff parhaol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth ond o fewn cyd-destun cymorth gan y Cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain.
Rhifedd Ni fydd casglu data rhifyddol yn elfen ganolog o'r modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadu a gwerthuso esiamplau a syniadau.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno gwaith asesedig ac adroddiad yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil addas a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn annog sgiliau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig (megis BIDS ac OCLC).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7