Module Information

Cod y Modiwl
MT33110
Teitl y Modiwl
Rhaglennu Llinol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 19 Awr. (19 x 1 darlith awr; darlithoedd MT33110 yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 3 Awr. (3 x 1 dosbarth enghreifftiol) 2 Awr (Tiwtorialau Termau)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:
1. disgrifio maes eang rhaglennu llinol;
2. fformwleiddio sefyllfaoedd real fel problemau rhaglennu llinol;
3. datrys problemau o'r fath gan ddefnyddio Dull Simplecs;
4. gweithredu addasiadau addas i'r dechneg sylfaenol.
5. dehongli canlyniadau o ddatrysiadau rhaglennu llinol wedi'r cynhyrchu gan gyfrifiadur.

Disgrifiad cryno


Problem sylfaenol Rhaglennu Llinol yw uchafsymio neu leiafsymio ffwythiant llinol mewn llawer o newidynnau, sydd a chyfyngiadau arnynt wedi'i mynegi yn nhermau anhafaleddau neu hafaliadau llinol. Mae theori Rhaglennu Llinol bellach wedi'i hen sefydlu, i'r graddau iddo bellach gael ei gynnig fel opsiwn mewn pecynnau cyfrifiadurol megis taenlenni. Mae'r modiwl hwn yn cynnig cydbwysedd rhwng theori a chymhwysiad y pwnc a'n rhoi ystyriaeth i ddehongliad datrysiadau problemau.

Nod


Cyflwyno cymhwysiad pwysig o Fathemateg sy'r cael ei ddefnyddio'r eang yn y byd go iawn.

Cynnwys

1. CYFLWYNIAD I RAGLENNU LLINOL: Fformiwleiddio problemau a defnydd eang y dechneg. Diffiniadau sylfaenol, gan gynnwys amgrymedd, pwyntiau eithafol, datrysiadau dichonadwy, datrysiadau sylfaenol, newidynnau sylfaenol ac ansylfaenol,datrysiad dichonadwy sylfaenol.
2. Y DULL SIMPLECS: Y syniad cyffredinol; nodweddion algebraidd a geometregol. Theorem Sylfaenol Rhaglennu Llinol. Newidynnau artiffisial; dull M-mawr, dull dwy wedd, Dull Simplex Ddeuol. Newidynnau diarwydd. Beth all fynd o'r le.
3. DADANSODDIAD SENSITIFRWYDD: Dehongli'r darlun simplecs, yn cynnwys dehongliad economaidd lle bo'r briodol. Prisiau deuol. Newid ac elw ffiniol.
4. DEUOLRWYDD: Y broblem ddeuol a'r hysgogiad. Theorem Sylfaenol Deuolrwydd. Y berthynas rhwng datrysiadau i'r broblem wreiddiol a'r broblem ddeuol. Llacrwydd cyflenwol. Dehongliadau o'r broblem Ddeuol.
5. PYNCIAU ARBENNIG: Detholiad o'r pynciau: Gemau swm-sero, rhaglennu cyfanrifau, problemau priodoli, problemau trawsgludo.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Ecker, Joseph G. (c1988.) Introduction to operations research /Joseph G. Ecker, Michael Kupferschmid. Wiley Chwilio Primo Taha, Hamdy A. (c2007.) Operations research :an introduction /Hamdy A. Taha. 8th ed. Pearson/Prentice Hall Chwilio Primo Winston, Wayne L. (1995.) Introduction to mathematical programming :applications and algorithms /Wayne L. Winston. 2nd ed. Duxbury Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6