Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | Sesiwn ymarferol 1 x 3 awr yr wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 7 Awr Cyfraniad ac ymroddiad yn y dosbarthiadau | 50% |
Asesiad Semester | Llyfr nodiadau/dyddlyfr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cyfrannu`n effeithiol i waith byrfyfyr
- trefnu ei sesiwn personol i baratoi`r corff i weithio mewn sefyllfa ymarferol
- trefnu eu perfformiad eu hunain mewn grwpiau ac yn unigol
- cofnodi eu hymwneud a gwaith ymarferol yn effeithiol drwy ddogfennu`r prosesau a ddilynwyd
- mynegi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o `Safbwyntiau` Bogart a`u heffaith ar waith byrfyfyr ac ar berfformiad y grwp
Nod
Fe fydd y grŵp yn ystyried ac yn ymarfer y syniad o ensemble ac yn defnyddio gemau ac ymarferion i hwyluso'r proses hon. Cyflwynir safbwyntiau Bogart gan ystyried eu perthynas a gwaith byrfyfyr a sut y gall actor ei defnyddio mewn perthynas â thestun dramatig. Fe fydd yr asesiad ymarferol yn gofyn am ddealltwriaeth a thystiolaeth o waith ensemble synhwyrus a chreadigol wrth ddefnyddio'r safbwyntiau.
Disgrifiad cryno
Nodiadau ar yr asesiad:
Llyfr Nodiadau
Fe fydd y llyfr nodiadau yn gydwerth a thraethawd 3,000 o eiriau. Strwythurir y llyfr nodiadau ar ffurf 10 dadansoddiad byr (heb fod yn fwy na 500 o eiriau'r un) yn olrhain gwaith yr 10 dosbarth ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o'r technegau ymarferol a defnyddiwyd yn y dosbarthiadau, yn ogystal â chrybwyll y drafodaeth ddiwylliannol y cyfeiriwyd ati yn ystod y dosbarthiadau.
Cyfraniad ac Ymroddiad yn y Dosbarthiadau
Bydd aelodau staff yn asesu cyfraniad myfyrwyr wrth drafod a chyfrannu ar lafar yn y dosbarthiadau ymarferol. Rhan hanfodol o'r asesiad hwn fydd ystyriaeth o bresenoldeb a phrydlondeb y myfyrwyr, yn ogystal â'u hymroddiad yn y dosbarthiadau.
Cynnwys
Chwaraeon i baratoi'r corff ac i hyrwyddo'r syniad o ensemble (gweler Boal, Barker,Johnston, Rohd)
'Safbwyntiau' :
Gofod - Cydberthynas Ofodol, Daearyddiaeth, Siâp, Ystum 'bob dydd' ag ystum mynegiannol, Pensaernïaeth
Amser - Tempo (cyflymder), Parhad, Ymateb Cinesthetig Ailadrodd,
Rhestr Ddarllen
HanfodolBogart, A and Landau, T (2005) The Viewpoints Book: A Practical Guide to Viewpoints and Composition Routledge Chwilio Primo Jones, Anwen a Lewis, Lisa (gols) (2013) Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Marshall, L (2008) The Body Speaks Methuen Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4