Module Information

Cod y Modiwl
BG12410
Teitl y Modiwl
Sgiliau Astudio a Chyfathrebu
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 5 x Darlithoedd 1 Awr
Tiwtorial 7 x Tiwtorial 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd ffurfiannol  (1200 gair, wedi'i gyeirio'n llawn)  10%
Asesiad Semester Adroddiad prosiect  (1500-2000 gair, wedi'i gyfeirio'n llawn)  60%
Asesiad Semester Cyflwyniad seminar  20%
Asesiad Semester Tasg CDP  10%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll yr elfennau, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.

2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.

3. Llunio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, casglu data, a llunio dadleuon academaidd.

4. Canfod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.

5. Datblygu arferion academaidd priodol (e.e. osgoi ymddwyn yn annheg).

6. Dehongli a defnyddio data.

7. Meddu ar sgiliau cyfrifiadura sylfaenol.

Disgrifiad cryno

Diben y modiwl yw paratoi myfyrwyr drwy feithrin y sgiliau allweddol sydd eu hangen i gael gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus, megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Un agwedd bwysig o'r modiwl yw ei fod yn cyflwyno ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol, a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl mewn sawl modd gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a sesiynau tiwtorial.

Nod

Trwy gyfuniad o ddarlithoedd cyflwyniadol ffurfiol, wedi'u hategu gan sesiynau tiwtorial gyda'r tiwtoriaid personol, diben y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau astudio a chyfathrebu allweddol, a meithrin y sgiliau hynny. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno
  • Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth
  • Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol
  • Moeseg ymchwil
  • Trin a dadansoddi data

Cynnwys

5 x darlith gyflwyniadol ffurfiol 1 awr yn ystod 5 wythnos gyntaf y Semester
6 x sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb eu hamserlennu'n ganolog)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Diben y traethawd ffurfiannol, yr adroddiad prosiect a'r cyflwyniad seminar, ynghyd a'r adborth manwl a ddarperir gan y tiwtoriaid personol, yw meithrin a gwella'r sgiliau hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae CDP wedi'i sefydlu'n llwyr o fewn y modiwl hwn. Disgwylir i'r tiwtoriaid personol gyflwyno a darparu sylwadau ar gynlluniau CDP unigol eu myfyrwyr. Mae CDP wedi ei asesu gan dasg 10%.
Datrys Problemau Mae'n bosib y cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu'r ddamcaniaeth a fydd yn sylfaen i'w prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn.
Gwaith Tim Bydd y gwaith ymchwil ar gyfer y prosiect yn cael ei gyflawni mewn grwpiau gyda'r tiwtoriaid personol i gyflwyno'r myfyrwyr i'r cysyniad o weithio mewn tîm. Hefyd, ar sail adborth a ddarperir gan y grwp, bydd disgwyl i'r tiwtoriaid roi sylwadau am gyfraniad unigolion tuag at gyflawni amcanion y grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yn ofynnol i'r myfyrwyr ganfod a defnyddio ffynonellau llenyddol priodol fel sylfaen ar gyfer eu traethawd a'u hadroddiad prosiect. Hefyd, mae'r sesiynau tiwtorial ffurfiol sy'n rhan o'r modiwl yn galluogi'r tiwtoriaid personol i adolygu a darparu sylwadau am gynlluniau gwaith eu myfyrwyr, ac am eu cynnydd o safbwynt bodloni gofynion y gwahanol aseiniadau.
Rhifedd Bydd yn ofynnol i'r myfyrwyr gynhyrchu a chyflwyno data yn eu hadroddiad prosiect. Serch hynny, ar y lefel hwn ni fydd disgwyl iddynt gyflawni dadansoddiadau ystadegol lefel uchel o ddata o'r fath.
Sgiliau pwnc penodol Er y gallai myfyrwyr unigol gyflawni prosiect ymchwil a chynhyrchu traethawd ar bwnc sy'n berthnasol i'w cynllun gradd penodol nhw, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio a chyfathrebu trosglwyddadwy generig yn hytrach na sgiliau ar gyfer pynciau penodol.
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd priodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd ddarparu sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a ddefnyddiwyd.
Technoleg Gwybodaeth Ar draws y gwahanol aseiniadau, disgwylir i'r myfyrwyr ddangos eu bod yn gallu defnyddio ystod o becynnau TG perthnasol yn effeithiol (Word, Excel, PowerPoint)

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4