Module Information

Cod y Modiwl
BG20400
Teitl y Modiwl
Systemau Cynhyrchu Anifeiliaid
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 4 Awr
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 3 Awr
Ymarferol 2 x Sesiynau Ymarferol4 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad godro  25%
Asesiad Semester Aseiniad cynhyrchu cig  25%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Arholiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr gwblhau?r elfennau o?r asesiad sy?n cyfateb i?r hyn a arweiniodd at fethu?r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Roddi disgrifiad meintiol o systemau cynhyrchu anifeiliaid ac adnabod y rhyngweithio rhwng elfennau'r system.

2. Adnabod prif rwystrau cynhyrchiant.

3. Adnabod rol ymchwil yn natblygiad systemau cynhyrchu anifeiliaid.

4. Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw er mwyn adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Nod

Amcan y modiwl yw darparu disgrifiad manwl o'r rhyngweithiadau biolegol cymleth sy'n bodoli mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid a chanfyddiad o sut y medrir ymgorffori darganfyddiadau ymchwil i wella cynhyrchiant yn ogystal a darparu'r sgiliau sylfaenol fydd yn galluogi myfyrwyr i ganfod problemau a chywiro perfformiad is-optimaidd.

Cynnwys

Strwythur diwydiannau cynhyrchu eidion, defaid, llaeth a moch y DU.
Rheoli bwyd gwartheg godro, sgor cyflwr, defnyddio porfa ac anoddau bwyd eraill.
Datblygiad, strwythur a swyddogaeth cadeiriau, trin cyfansoddiad llaeth.
Bridio gwartheg godro.
Magu heffrod a rheoli ffrwythlondeb y fuches.
Iechyd gwartheg godro yn cynnwys anwylderau metabolig, cloffni, TB, Clwy'r Traed a'r Genau a Thafod Glas.
Systemau cynhyrchu ar gyfer defaid mynydd, tiroedd uchel a thiroedd isel.
Rheoli atgynhyrchu'r famog a'r hwrdd.
Bridio defaid.
Strategaethau bwydo'r famog yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod llaetha.
Iechyd y famog feichiog a'r famog sy'n llaetha a'r 'rn sy'n tyfu.
Systemau cynhyrchu lloi sugno, strategaethau bwydo a rheoli atgynhyrchu.
Magu lloi.
Systemau cynhyrchu cig eidion dwys, lled ddwys a helaeth.
Systemau cynhyrchu moch.
Rheoli'r hwch gyfnewid.
Strategaethau bwydo ar gyfer perfformiad oes gorau'r hwch sy'n bridio.
Rheoli'r hwch drwy'r cyfnod bridio, beichiogrwydd, esgor, llaetha a'r cyfnod sych.
Rheoli'r mochyn newyddanedig, wedi'i ddiddyfnu, sy'n tyfu ac sy'n gorffen.
Iechyd a lles moch.
Sicrhau'r ansawdd cynnyrch gorau.
Cynlluniau aswiriant ffermydd a lles anifeiliaid.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Datrys Problemau Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Rhifedd Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5