Module Information

Cod y Modiwl
CYM0220
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Barddoniaeth: ffurfiau'r canu caeth a rhydd
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll. 
Asesiad Semester Cadw Dyddlyfr BwrddDu AberLearn er mwyn olrhain eu datblygiad parhaus (1,000 o eiriau).  20%
Asesiad Semester Cyfansoddi lleiafswm o 4 cerdd wreiddiol, ynghyd ag esboniad beirniadol 2,000 o eiriau i gyd-fynd a?r casgliad.  60%
Asesiad Semester Dadansoddiad o ffurf testun barddonol (1,000 o eiriau)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

cwblhau ymarferion barddol; dangos ymwybyddiaeth o'r dulliau cyfansoddi unigol, gan ysgrifennu'r hunanfeirniadol am eu cryfderau a'r nodweddion eu hunain fel beirdd.

amgyffred y posibiliadau sydd ar gael i feirdd wrth gyflwyno deunydd ar ffurf barddoniaeth; deall rhai o'r canlyniadau sy'r deillio o ddewis un ffurf rhagor na ffurf arall; arddangos ymwybyddiaeth o ystod eang o ddulliau barddoni yn eu gwaith creadigol a beirniadol eu hunain.

gwerthfawrogi'r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau.

Dangos y gallu i wella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth trwy addasu ac adolygu testunau a drafodwyd yng ngweithdai'r modiwl.

Disgrifiad cryno

Rhesymeg y modiwl dewisol hwn yw bod angen sylfeini theoretig a generig cadarn ar y rhai sy'r dymuno ymarfer a datblygu eu creadigrwydd barddonol.

Trwy ganolbwyntio ar ffurfiau'r canu caeth a rhydd, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu barddoniaeth ac yn rhoi canllaw iddynt ymateb i ofynion llenyddol yn ol natur y testun, y gynulleidfa, genre a'r arddull.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r posibiliadau creadigol sydd ar gael i feirdd cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu gweithiau creadigol eu hunain.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn gyfle i archwilio ac i ddatblygu amcanion barddol ac i drafod gweithiau barddol ar-y-gweill mewn awyrgylch beirniadol, adeiladol a chreadigol. Cynigir cyfres o ddarlithiau, seminarau a gweithdai dan fugeiliaeth y staff a llenorion gwadd a fydd yn ystyried barddoniaeth fel ffurf ar ymchwil ddiwylliannol, a hynny yn sgil cysylltiad nifer o feirdd o arwyddocad cenedlaethol a'r Adran: T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams, Gwenallt, Bobi Jones, Iwan Llwyd, Twm Morys ac Eurig Salisbury. Cynhelir sesiynau dwyawr, sef darlith a seminar atgyfnerthol i ddilyn. Cynhelir ambell sesiwn ar ffurf gweithdy lle disgwylir i'r myfyrwyr arwain, gan gyflwyno a thrafod eu gwaith eu hunain yn ogystal a gwaith ei gilydd. I raddau bydd pwyslais y sesiynau hyn yn dibynnu ar ddiddordebau'r myfyrwyr dan sylw.

  • Dadansoddiad technegol/thematig o waith beirdd enghreifftiol (2 sesiwn dwyawr; darlith a seminar i ddilyn)
  • Mathau o farddoniaeth (1 sesiwn dwyawr)
  • Dulliau'r canu rhydd: y delyneg draddodiad, y soned, y rhigwm (3 sesiwn dwyawr)
  • vers libre (1 sesiwn dwyawr)
  • Y gynghanedd a ffurfiau Cerdd Dafod; (3 sesiwn dwyawr, un ohonynt yn weithdy)
Nid anelir y modiwl hwn at ddechreuwyr pur yn y maes. Disgwylir y bydd gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn barddoniaeth yn barod ac y byddant eisoes wedi cynhyrchu peth gwaith barddonol. E.e. mae'r bosib y byddai rhai myfyrwyr wedi cyfansoddi cerddi ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol neu ar gyfer y modiwl Ysgrifennu Creadigol israddedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch barddoniaeth.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod.
Datrys Problemau Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig.
Gwaith Tim Na
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau barddol yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol a fynegir mewn seminarau gan eu tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) barddonol i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Barddas, Taliesin, Tu Chwith.
Sgiliau ymchwil Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau barddol o wahanol gyfnodau hanesyddol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7