Module Information

Cod y Modiwl
HA36830
Teitl y Modiwl
Menywod a'r Berthynas rhwng y Rhywiau ym Mhrydain C1800-C1950
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
HY 36830
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Semester 3 Awr   (1 x arholiad 3 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  25%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu bywydau a phrofiadau menywod yn ystod y cyfnod sydd dan sylw;

Nodi ac esbonio y newidiadau ym mherthynasau y rhywiau ym Mhrydain fodern;

Lleoli profiadau cyfnewidiol menywod a pherthynasau rhwng y rhywiau yng nghefndir ehangach hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Prydain;

Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus.

Disgrifiad cryno

Mae'r cwrs yn arolygu hanes menywod a chysylltiadau'r rhywiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod modern. Mae'r ystyried profiadau amrywiol a chyfnewidiol menywod mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ac mae'r lleoli'r datblygiadau hyn yn hanes ehangach Prydain. Ymhellach, mae'r cwrs yn archwilio'r diffiniadau rhyw cyfnewidiol a'r heffaith ar gysylltiadau'r rhywiau. Lleolir yr agweddau hyn o brofiadau menywod mewn fframwaith amseryddol sydd yn arolygu hanes menywod o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Nod

Mae'r modiwl yn:
cyflwyno myfyrwyr i rai o’r prif themau yn hanes menywod yn y cyfnod modern;
datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cenedligrwydd, cenhedlaeth a dosbarth cymdeithasol wrth ddylanwadu ar brofiadau menywod;
caniatau myfyrwyr i ystyried y prif newidiadau yn hanes menywod dros ganrif a hanner.

Cynnwys

Darlithiau:
1. Rhagarweiniad
2. Menywod cyn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
3. 'Sfferau ar wahan'
4. Menywod a'r Chwyldro Diwydiannol
5. Menywod a Gwneuthuriad y Dosbarth Gweithiol
6. Menywod, Priodas a'r Teulu
7. Menywod a Dyngarwch
8. Y Mudiad Ffeministaidd Cynnar
9. Rhywioldeb Fictorianaidd
10. Menywod, Hil a'r Ymerodraeth
11. 'Y Fenyw Newydd' yn ystod y 1890au
12. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched I
13. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched II
14. Menywod a'r Rhyfel Byd Cyntaf
15. Gwaith menywod yn ystod yr Ugeinfed Ganrif
16. Ffeministiaeth Rhwng y Rhyfeloedd
17. Menywod a'r Ail Ryfel Byd
18. Menywod a'r Wladwriaeth Les

Seminarau:
1. Y cysyniad o 'sfferau ar wahan'
2. Menywod a Gwleidyddiaeth yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
3. Cyflogaeth menywod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg
4. Puteindra
5. Menywod a phleidiau gwleidyddol, c.1880-1914
6. Menywod a Diwylliant Poblogaidd
7. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Fenywod I: Y ddadl dros bleidlais i fenywod
8. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Fenywod II: Suffragettes a Suffragists
9. Ffeministiaeth Newydd rhwng y rhyfeloedd
10. Rhyfel a Newid Cymdeithasol yn ystod yr Ugeinfed Ganrif

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau wrth ddadansoddi ffynonellau hanesyddol gwreiddiol yn ymwneud ag hanes menywod ym Mhrydain.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6