Module Information

Cod y Modiwl
TC32520
Teitl y Modiwl
Ffilmiau Dogfen
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Cwblhau Rhan 1 Astudiaethau Ffilm a Theledu yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Critigol (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Traethawd (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (3000 o eiriau)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth datblygiedig o'r disgwrs yn ymwneud a film ddogfen a mudiadau dogfen
2. Gwerthuso'n feirniadol a chritigol modelau theori dogfen
3. Cymhwyso'r theoriau i'r ffilmiau yn feirniadol
4. Dangos dealltwriaeth dadansoddol datblygiedig o wahanol testunau ffilmig

Nod

Diwygir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwythuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn symud o 10 credyd i 20 credyd. Mae astudiaethau ffilmiau dogfen yn rhan ganolog o faes ymchwil nifer o staff yr adran.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y ffilm dogfennol gan gynnwys ffilm, teledu a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd cyfryngol hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydliadau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall y sialensiau sy'n gwneuthurwyr ffilmiau a rhaglenni dogfennau.

Cynnwys

Darlithoedd

Dechreuadau 1: Flaherty

Dechreuadau 2: Vertov

Dechreuadau 3: Grierson

Propaganda: Humphrey Jennings a Leni Riefenstahl

Sinema Uniongyrchol a Cinema Verite

Torri'r Ffiniau: Drama-dogfen

Materion cyfoes: Verite Prydeinig

Sebogfen

Teledu Realiti

Dogfennau Rhyngweithiol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu
Rhifedd Ddim yn berthnasol i'r modiwl
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6