Module Information

Module Identifier
TR32400
Module Title
Profiad Gwaith Cyfiawnder Troseddol
Academic Year
2015/2016
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Exclusive (Any Acad Year)
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Tutorial 8 x Tiwtorial 1 Awr
Lecture 4 x Darlithoedd 2 Awr
Practical 1 x Gweithgaredd Ymarferol 7 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio -  Portffolio o'r sgiliau a ddysgwyd a'r tasgau a gwblhawyd ar leoliad  20%
Semester Assessment Asesu - sefydliad y lleoliad  10%
Semester Assessment Cyflwyniad ar ol y lleoliad (10-15 munud)  20%
Semester Assessment Adroddiad yn ystyried y Lleoliad  (diwedd yr ail semester) - 1,500 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Ailsefyll drwy gyflwyno Adroddiad Myfyriol Estynedig  - 4,000 o eiriau  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Gweithio ar leoliad am gyfnod sy'n ofynnol.
2. Gweithio yn &#244l amserlen benodol mewn asiantaeth cyfiawnder troseddol, y llywodraeth neu amgylchfyd academaidd.
3. Gweithio'n annibynnol ac yn rhan o d&#238m.
4. Defnyddio'r wybodaeth a gafwyd drwy'r astudiaethau academaidd mewn sefyllfa yn y gweithle.
5. Ystyried sut i ddefnyddio eu sgiliau cyflogadwyedd i wella eu dysgu academaidd.
6. Asesu ac ystyried yr wybodaeth a'r profiad a gafwyd ar leoliad a'u defnyddio wrth weithio ar ddarn o waith academaidd.
7. Asesu cyfraniad yr hyfforddiant sgiliau a'r profiad gwaith i'w datblygiad gyrfa.

Content

Cyn y Lleoliad
Sesiynau rhagarweiniol i'w dysgu gan Staff y Brifysgol
1. Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
2. Cyflwyniad i waith maes a'i faglau.

Hyfforddiant Sgiliau Rhagarweiniol yn cael ei ddarparu gan Sefydliadau
Lleoliad
Trafod ac ystyried

Brief description

Byddai gofyn i fyfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn ddilyn hyfforddiant ar leoliad gwaith yn un o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn wirfoddol neu am d&#226l. Ar &#244l yr hyfforddiant, byddai disgwyl iddynt wneud nifer penodol o oriau gwaith yn wirfoddol neu am d&#226l. Byddai gofyn iddynt wedyn ddychwelyd a chwblhau traethawd estynedig fel rhan o'r gwaith asesu. Rhan fechan o'r asesu fyddai asesiad o'u perfformiad ar leoliad a fyddai'n cael ei asesu gan sefydliad y lleoliad.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mae nifer o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio ymchwil feintiol i bennu polisi a bydd nifer hefyd yn defnyddio materion meintiol i fesur effeithiolrwydd ymyriadau yn gyffredinol ac ar unigolion arbennig.
Communication Anogir a datblygir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac wrth gydadweithio &#226 chydweithwyr a / neu gleientiaid yn y lleoliad gwaith. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy'r cynllun a'r traethawd estynedig byr.
Improving own Learning and Performance Galluogir myfyrwyr i ystyried eu dysgu eu hunain trwy'r trafodaethau seminar a'r adborth ar y gwaith. Efallai y bydd y posibilrwydd o ystyried eu disgyblaeth ar waith mewn amgylchfyd ymarferol a'r cydadweithio rhwng y ddisgyblaeth a pholisi ac ymarfer llawer mwy gwerthfawr.
Information Technology Bydd chwilio trwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar lein yn rhoi cyfle i ymarfer sgiliau TG. Gan ddibynnu ar eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr yn debygol hefyd o ddod ar draws systemau newydd o grynhoi gwybodaeth cleientiaid ar gronfeydd data.
Personal Development and Career planning Mae'r modiwl mewn lle da ar gyfer atgyfnerthu dysgu'r myfyrwyr yn y meysydd hyn; dyma'n wir yw'r ethos sydd wrth wraidd y modiwl.
Problem solving Yn ystod y lleoliad bydd rhaid datrys nifer o broblemau ymarferol fydd yn datblygu ac yn atgyfnerthu sgiliau datrys problemau ymarferol a sgiliau beirniadol y myfyrwyr.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio deunydd darllen ar agweddau ar y lleoliad.
Subject Specific Skills Bydd datblygu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc yn agwedd ar gyfer pob un myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar y lleoliad.
Team work Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tîm felly bydd y modiwl o reidrwydd yn atgyfnerthu sgiliau gweithio mewn t&#238m.

Notes

This module is at CQFW Level 6