Module Information

Module Identifier
TR34220
Module Title
Sgiliau Troseddeg 2
Academic Year
2015/2016
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminar 2 x Seminarau 2 Awr
Practical 4 x Sesiynau Ymarferol2 Awr
Lecture 7 x Darlithoedd 2 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Aseiniad 3,000 o eiriau neu gyfatebol megis casglu, llunio neu ddadansoddi data empiraidd neu drafod setiau data rhifyddol mawr fydd yn golygur un ymdrech ag ymchwilio ar gyfer traethawd 3,000 o eiriau ond na fydd yr hyn a gynhyrchir yn dilyn yr un ffurf. Gofynnir am yr aseiniad yn wythnos 12.  100%
Supplementary Assessment Fel uchod  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion methodolegol sylfaenol sydd wrth wraidd ymchwil gwerthuso.
2. Gwerthfawrogi rhai o'r problemau technegol, ymarferol a moesol y deuir ar eu traws wrth werthuso effaith ymyriadau cyfiawnder troseddol.
3. Gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng strategaethau ymchwil gwerthuso cyfunol a ffurfiannol.
4. Defnyddio damcaniaethau troseddegol craidd a rhesymu ar gyfer testunau a pholisiau cymhwysol mewn meysydd fel rheoli ac atal troseddau.
5. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o gryfderau a chyfyngiadau dulliau dadansoddol ansoddol a meintiol mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil.
6. Cyflwyno data ystadegol mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau.
7. Tynnu casgliadau priodol o ddata ystadegol a phennu'r arwyddocad ystadegol.
8. Canfod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn arfer moesegol da wrth gynnal ymchwil empiraidd ym maes troseddeg a nodi'r risgiau personol y gellir dod ar eu traws wrth wneud gwaith maes mewn sefyllfaoedd ymchwil penodol.
9. Asesu'n feirniadol adroddiadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
10. Llunio adroddiad ymchwil sy'n seiliedig ar ddadansoddiad o ddata empiraidd.

Brief description

Mae'r modiwl yn trafod egwyddorion ymchwil gwerthuso ac yn dangos sut y defnyddir dulliau a methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol wrth astudio ymyriadau a gynlluniwyd a rhaglenni triniaeth yn y maes cyfiawnder troseddol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil empiraidd eu hunain a dadansoddi'n feirniadol astudiaethau sy'n bod eisoes.

Content

Cyflwyniad i werthuso rhaglenni a defnyddio modelau rhesymeg.
Cynlluniau ymchwil arbrofol a lled-arbrofol yng nghyd-destun polisi.
Dulliau ansoddol wrth werthuso arferion a pholisiau cyfiawnder troseddol.
Casglu data ansoddol: arsylwi gan gyfranogwyr ac eraill nad ydynt yn gyfranogwyr, grwpiau ffocws a thechnegau cyfweld.
Profion seicolegol sylfaenol
Dulliau meintiol: ystadegau casgliadol, arwyddoca^d ystadegol a Chi-sgwar.
Cyflwyniad i feddalwedd meintiol.
Egwyddorion ac arferion moesol yng ngwaith ymchwil troseddegol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd agweddau ar ystadegau casgliadol yn cael eu dysgu a'u hasesu yn rhan o'r modiwl.
Communication Bydd natur ryngweithiol y dulliau dysgu a fabwysiedir ar gyfer y modiwl hwn yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau cyfathrebu ar lafar. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy gyfrwng yr aseiniad gwaith cwrs.
Improving own Learning and Performance Mae'r broses ymchwilio ynddi'i hun, o gynllunio'r prosiect i ddadansoddi'r data a chyflwyno'r canfyddiadau, yn cynnwys ystyried a dadansoddi eich gwaith eich hun yn feirniadol. Y gobaith yw y bydd y myfyrwyr yn trosglwyddo'r sgiliau a ddatblygir yma i feysydd pwnc eraill.
Information Technology Bydd disgwyl i fyfyrwyr chwilio drwy gronfeydd data ar-lein a defnyddio rhaglenni ystadegol cyfrifiadurol syml i ddadansoddi data meintiol.
Personal Development and Career planning Bydd paratoi ar gyfer seminarau a dosbarthiadau ymarferol yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd meithrin sgiliau dadansoddol a chael cipolwg ar ddadleuon methodolegol allweddol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu gallu i fefddwl yn feirniadol.
Problem solving Dyma sg&#236l greiddiol mewn gweithgarwch ymchwil cymdeithasol ac fe fydd yn nodwedd amlwg o'r modiwl, yn enwedig yn y dosbarthiadau ymarferol.
Research skills Bydd y modiwl yn atgyfnerthu, datbygu ac ymestyn y sgiliau technegol ac ymchwil ymarferol a gyflwynwyd yn y modiwl Lefel 1, Sgiliau Ymchwil Troseddeg.
Subject Specific Skills Holl ethos y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyrwyr wrth ddatblygu a defnyddio'r sgiliau ymchwil troseddegol fydd yn eu galluogi i wneud gwaith ymchwil empiraidd a dadansoddi'n feirniadol ymchwil cyfiawnder troseddol a throseddegol.
Team work Bydd elfen o waith tîm yn y sesiynau ymarferol a'r seminarau.

Notes

This module is at CQFW Level 6