Module Information

Cod y Modiwl
BG23010
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymarferol Microbioleg
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 6 x Sesiynau Ymarferol4 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad cryno gan gr?p ar ddadansoddi syn annibynnol o dyfiant (1000 o eiriau ar y mwyaf).  30%
Asesiad Semester Adroddiad ar ynysu cymysgedd microbau.  (2000 o eiriau ar y mwyaf) yn cynnwys crynodeb or arbrawf yn y labordy ac asesiad plat llinell.  55%
Asesiad Semester Crynodeb tair arbrawf.  15%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn labordy microbioleg.

2. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.

3. Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl yw arog'r myfyriwr a'r sgiliau sylfaenol a ddisgwylir o berson graddedig sy'n gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig a microbioleg, drwy ymdrochi'r myfyriwr yn gyntaf mewn sesiynau labordy a gynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol a dulliau yn seiliedig ar dyfiant o ddisgrifio microbau, ac yn ail drwy ddehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol.

Cynnwys

Yn ystod sesiynau ymarferol, cyflwynir myfyrwyr i amrywiaeth eang o ddulliau microbiolegol, yn cynnwys techneg aseptig a gwaith diogel gyda microbau, tyfiannau, technegau microsgopig a biocemegol ar gyfer adnabod microbau, arbrofion i ddarlunio ffisioleg microbau ac yn olaf dechnegau molecylaidd ar gyfer dadansoddi cymunedau microbau.

Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol staff ac yn deillio ohonynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig. Sgiliau gwrando ar gyfer y gweithdai a thrafodaeth ddilynol mewn dosbarthiadau ymarferol, a chyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig wrth ysgrifennu’r adroddiad cryno ar y cyd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig
Datrys Problemau Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu’r adroddiad cryno ar y cyd. Bydd angen iddynt weithio’n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio’r gwaith cwrs hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol.
Rhifedd Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o’r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau labordy yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio’r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5