Module Information

Cod y Modiwl
GF38120
Teitl y Modiwl
Y Gyfraith yn Gymraeg
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 2 x Darlithoedd 7 Awr
Darlith 7 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymryson  25%
Asesiad Semester Traethawd  1500 o eiriau  75%
Asesiad Ailsefyll Ymryson  - os caiff y ymryson ei fethu  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


Galluoedd pwnc-benodol

1. Canfod, adnabod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar gyfer ymchwil gyfreithiol.

2. Cymryd cyfrifioldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb eu hiaith eu hunain a gwybod sut i ddefnyddio gwahanol gymhorthion iaith megis geiriaduron a llyfrau gramadeg a deunydd cyfrifiadurol i loywi eu hiaith yn gyffredinol.

3. Ysgrifennu nodiadau cydlynus a chynhwysfawr ar destunau cyfreithiol, gan gynnwys testun penderfyniad barnwrol, yn Gymraeg.

4. Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.

5. Datblygu gwybodaeth am ddrafftio cyfreithiol a sgiliau yn y maes.

6. Trawsieithu deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.

7. bod yn ymwybodol o wahanol gyweiriau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn o^l sefyllfa, pwrpas a'r gynulleidfa.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o hybu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn gallu cwblhau tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodau achos, drafftio deddfwriaethol ayb. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar gywirdeb ieithyddol y tasgau hyn, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgrifennu Cymraeg cyfreithiol graenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar iaith lafar gywir ac addas i'r cywair. Ceir cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr wrth ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu). Rhan bwysig o'r modiwl fydd paratoi at y cyflwyniad llafar lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar y gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a'u sgiliau ieithyddol trwy gyfrwng ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6