Module Information

Module Identifier
MOR9005
Module Title
Moeseg, Llenladrata ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
Academic Year
2015/2016
Co-ordinator
Semester
Available semesters 1 and 2
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau yn y gweithdy. Bydd yr ymarferion yn trafod a) adnabod achosion o lenladrata, b) pa faterion moesegol all ymddangos mewn ymchwil, a c) yr hyn a ddylid ei wneud gyda data. Bydd yr ymarferion yn cael eu cwblhau mewn amgylchedd grwp bach a byddant yn cael eu hasesu gan gyfoedion (darperir meini prawf asesu priodol).  30%
Semester Assessment Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein ar gyfer eu prosiect ymchwil yn llwyddiannus. Golyga hyn bod y person priodol yn eu Hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil) wedi ei gymeradwyo.  40%
Semester Assessment Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect ymchwil. Gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd angen i'r cynllun fod yn addas ar gyfer y prosiect ymchwil a chael ei gymeradwyo gan yr arolygydd.  30%
Supplementary Assessment Ailgyflwyno elfennau methu 

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. deall ac asesu llenladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.
2. deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.
3. deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.

Brief description

Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.

Aims

Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.

Content

Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Rhwydweithio yn ystod y gweithdy
Improving own Learning and Performance Yn ystod y gweithdy
Information Technology Proses cymeradwyo moesegol ar-lein
Personal Development and Career planning Ymhob agwedd.
Problem solving
Research skills Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy.
Subject Specific Skills Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan.
Team work

Notes

This module is at CQFW Level 7