Module Information

Cod y Modiwl
SC20620
Teitl y Modiwl
Seicoleg mewn gweithred
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 4 x 1 Hour Tutorials
Darlith 5 x 2 Hour Lectures
Darlith 4 x 2 Hour Lectures
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau)  100%
Asesiad Semester traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau)  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r myfyriwr bod yn gallu:
1. Dadansoddi, asesu and gwerthuso'r rolau a sgiliau'r gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio mewn lleoliad cymhwysol
2. Datblygu cwestiwn sydd yn berthnasol i'r gweithle ag sydd yn seiliedig ar y profiad gwaith
3. Ymchwilio, dadansoddi ac asesu'r ffenomenau mewn ffordd addas.
4. Arddangos ymwybyddiaeth o foeseg y gweithle
5. Cadw dyddiadur adfyfyriol o'r profiad gwaith
6. Ysgrifennu traethawd sydd yn seiliedig ar y cwestiwn a gynhyrchwyd yn ystod y profiad gwaith, a defnyddio'r wybodaeth o'r traethawd i ddatblygu resume.

Nod

Amcanion:
1. I ddarparu myfyrwyr a gwybodaeth am brif agweddau seicoleg mewn cymhwysiad
2. I hyrwyddo lleoliad gwaith ble gall myfyrwyr gyfrannu
3. I drafod defnydd sgiliau trosglwyddedig a seicolegol mewn lleoliad cymhwysol.

Cynnwys

Seicoleg mewn ardaloedd cymhwysol (clinigol, galwedigaethol, cymunedol, addysgol);
Paratoi ar gyfer y lleoliad gwaith a sgiliau trosglwyddadwy.
Seicoleg yn y gweithle
Gwaith tîm yn y gweithle
Hyfforddiant yn y gweithle
Moeseg yn y gweithle
Y gweithiwr proffesiynol adfyfyriol

Lleoliad: un lleoliad werth ugain-awr a ddewiswyd o ardaloedd o leoliadau clinigol, addysgol, diwydiannol, sefydliadol a chymunedol naill ai fel cyflogai neu fel gwirfoddolwr. Caniateir i fyfyrwyr sydd eisoes wedi'i chyflogi rhan amser i ysgrifennu am y profiad hwn fel rhan o'r modiwl at yr amod y gallant ddatblygu cwestiwn ymchwil addas.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma yn trafod seicoleg mewn gweithred. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o lwybrau gyrfa amrywiol a chyfleoedd mewn seicoleg. Mae myfyrwyr yn cwblhau o leiaf ugain awr mewn lleoliad cymhwysol. Mae'r lleoliad gwaith yn rhoi cyfle i bob myfyriwr i gael profiad mewn meysydd naill ai yn gysylltiedig â gwaith proffesiynol, yn berthnasol i'r gweithle neu wirfoddol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5