Module Information

Cod y Modiwl
TC36620
Teitl y Modiwl
Cynhyrchu Stiwdio
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddianus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 10 x Gweithdai 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Creadigol – cyfwerth â 1,000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Cynhyrchiad Grŵp a Dogfennaeth  70%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol – cyfwerth â 1,000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll Cynhyrchiad Grŵp a Dogfennaeth  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos gallu uchel i gynhyrchu ystod eang o ffurfiau teleweledol, gan ddefnyddio a herio confensiynau'r cyfrwng.

2. Allu mynegi a gweithredu uchelgeisiau ac amcanion artistig, gan arddangos creadigrwydd, gwreiddioldeb, a soffistigeiddrwydd technegol.

3. Arddangos gallu a hyder wrth greu, ynghyd a dealltwriaeth wybodus o ystod eang o dechnegau cynhyrchu aml-gamera.

4. Arddangos gallu craff er mwyn dadansoddi a gwerthuso gwaith cynhyrchu, gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwaith tîm, a gallu cynyddol i rannu, derbyn a rhannu beirniadaeth gynhyrchiol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac i ddefnyddio rhai o'r sgiliau technegol a chreadigol y byddent wedi'u magu yn ystod dwy flynedd gyntaf y cynllun gradd, gyda'r bwriad o greu gwaith stiwdio annibynnol, mewn amryw o ffurfiau ffeithiol a ffuglen. Mae'r modiwl yn cychwyn gyda dulliau cynhyrchu teledu traddodiadol, cyn symud ymlaen at genrau mwy blaengar a hybrid sy'n cyfuno sawl arddull a ffurf wahanol.

Gan gychwyn gyda chyfres o weithdai a fydd yn atgyfnerthu ac yn ymestyn profiadau blaenorol, bydd myfyrwyr yn raddol yn cwblhau tasgau mwy uchelgeisiol a hunan-gynyrchiadol, yn datblygu ac yn gwireddu cysyniadau ar lefelau mwy dwys ac ymdrechgar. Bydd disgwyl i unigolyn ymgymryd â nifer o rolau cynhyrchu gwahanol, ond bydd y gwaith hefyd yn mynnu lefel uchel o gydweithio a gwaith tîm.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi cynnig i fyfyrwyr i weithredu rhai o'r sgiliau technegol a chreadigol y byddent eisoes wedi'u magu yn ystod dwy flynedd gyntaf y radd, gyda’r bwriad o greu gwaith mewn stiwdio sydd yn gynyddol yn annibynnol a hynny ar gyfer ystod eang o ffurfiau ffeithiol a ffuglen. Mae'r modiwl yn cychwyn gyda dulliau cynhyrchu teledu traddodiadol, cyn symud ymlaen at genrau mwy blaengar a hybrid sy'n cyfuno sawl arddull a ffurf wahanol.

Cynnwys

1. Prosesau a ffurfiau cynhyrchu teledu

2. Cynhyrchu newyddion

3. Cynhyrchu chwaraeon

4. Cynhyrchu materion cyfoes

5. 'Gŵyl Ffilmiau': cyfuno cynhyrchu stiwdio gyda lleoliad (1)

6.'Gŵyl Ffilmiau': cyfuno cynhyrchu stiwdio gyda lleoliad (2)

7. Datblygu sgript

8. Actio ar gyfer y sgrin

9. Ymweliad stiwdio

10. Recordio prosiect ffuglen (drama, opera sebon, comedi sefyllfa)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu sgriptiau. Gan fod y prosiectau yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn ddibynnol ar sgiliau cyfathrebu uchel. Hefyd fe gynhelir trafodaethau yn seiliedig ar waith fydd yn cael ei arddangos, gan gynnwys sgriptiau'r myfyrwyr.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn gweithio yn y gweithdai ac yn y cynyrchiadau terfynol yn ôl rolau proffesiynol penodedig, gan ddysgu trwy adlewyrchu ar sefyllfa gynhyrchu broffesiynol
Datrys Problemau Bydd y gweithdai wythnosol yn y cyflwyno myfyrwyr gyda gwahanol heriau artistig ac ymarferol sydd yn gysylltiedig â nifer o ffurfiau teleweledol gwahanol. Wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd y myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys problemau logistaidd, cyllidol, a thechnegol, a all godi fel rhan o'r prosiect cynhyrchu.
Gwaith Tim Mae'r modiwl yn rhoi pwyslais arbennig ar bwysigrwydd y gallu i gyd-weithio'n agos ac ar waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth ar waith fydd yn cael ei asesu a rhoddir adborth adeiladol ffurfiannol barhaus i'r myfyrwyr ar hyd y modiwl.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyd-gynhyrchu trwy ffurfio cysyniadau a chynllunio nifer o wahanol o gynyrchiadau. Rhagwelir y bydd y modiwl yn ymestyn sgiliau aml-gamera y myfyrwyr; yn yr un modd datblygir sgiliau golygu ymhellach trwy olygu'r gwahanol weithiau.
Sgiliau ymchwil Bydd creu gweithiau fideo yn ddibynnol ar ymchwil i ystod eang o adnoddau beirniadol-ddamcaniaethol, hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol mewn perthynas â chynhyrchu teledu. Bydd ffilmio a golygu'r gwaith yn ddibynnol ar ymchwil i'r systemau technegol sy'n rhan o'r broses o greu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio prosesydd geiriau ar gyfer cyflwyno sgriptiau/cynigion. Bydd fideo digidol yn cael ei olygu ar gyfrifiadur yn defnyddio Avid Media Composer neu Final Cut Pro. Mae'n debygol y bydd hefyd angen defnyddio rhaglenni cyfrifiadur eraill, yn ôl anghenion prosiectau annibynnol y myfyriwr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6