Module Information

Cod y Modiwl
YF11310
Teitl y Modiwl
Concwest, Uno a Hunaniaeth : Cymru 1282-1800
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Postiadau ar flog  Postiadau newydd ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen  30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1 traethawd 2,500 o eiriau (cwestiynau newydd)  70%
Asesiad Semester Postiadau ar flog  Postiadau ar flog a fydd yn ymateb i’r cyflwyniadau ac yn adolygu eitemau o’r gwaith darllen.  30%
Asesiad Semester Traethawd  1 traethawad 2,500 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos ymwybyddiaeth o’r deunydd darllen a’r trafodaethau ym maes hanes Cymru 1282-1800.

Myfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig.

Gweithio’n annibynnol.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Nod

• Cynnig cyflwyniad i hanes Cymru rhwng 1282 a 1800.
• Annog dealltwriaeth o’r ffyrdd gwahanol mae haneswyr wedi gweld hanes.
• Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio a deall ffynonellau gwreiddiol.
• Paratoi myfyrwyr i astudio hanes Cymru ymhellach.

Disgrifiad cryno

Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themâu hanes Cymru cyn datblygiad diwydiant sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wlad o goncwest Edward I yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Trwy gydol y cwrs, rhoddir sylw i ddyheadau diwylliannol y Cymry, gan geisio nodi'r elfennau o newid a pharhad a brofwyd yn y cyd-destun hwn.

Cynnwys

Cyflwyniadau ar ffurf fideo/mp3/pdf; ar gyfer pob testun ceir cyflwyniad i ffynhonnell (neu ffynonellau) yn ogystal â chyflwyniad cyffredinol.
1. a) Concwest Edward I; b) Cestyll Edward I.
2. a) Byw gyda’r Goncwest; b) Casgliad o Ohebiaeth o’r Calendar of Ancient Correspondence Concerning Wales.
3. a) Gwrthryfel Glyndŵr; b) Llythyr Pennal a Chronicl Adda Brynbuga.
4. a) Harri Tudur: Mab Darogan?; b) Cerddi Brud.
5. a) Harri VIII a’r Deddfau Uno; b) y Deddfau Uno.
6. a) Cymru a’r Dadeni Dysg; b) William Salesbury, Oll Synnwyr Pen Kembero Ygyd
7. a) Cymru a’r Diwygiad Protestannaidd; b) Eglwysi a’r Beibl.
8. a) Rhyfel Cartref; b) Llythyrau.
9. a) Addysg a Llythrennedd; b) Welsh Piety.
10. a) Y Diwygiad Methodistaidd; b) Llythyrau Howel Harris.
11. a) Twf Radicaliaeth Wleidyddol; b) Richard Price, Cariad at ein Gwlad.
12. a) Creu Cymreictod; b) Elfennau o Ddiwylliant Cymreig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llythrennedd myfyrwyr drwy’r blog a’r traethawd yn ogystal â thrwy negeseuon e-bost, sgyrsiau ffôn
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyfathrebu fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa yn y dyfodol
Datrys Problemau Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau hanesyddol
Gwaith Tim Bydd fforymau trafod ar gael ond nid asesir hyn yn ffurfiol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth a’u dysgu yn raddol ar eu blog
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynar.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y traethawd a’r blog
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio TG wrth gael mynediad i’r modiwl, wrth baratoi, trafod a chyflwyno deunydd

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4