Module Information

Cod y Modiwl
GA10210
Teitl y Modiwl
Cofnod Daearegol Bywyd ar y Ddaear
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 7 x Sesiynau Ymarferol2 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Gwaithlyfr ymarferol wedi’i asesu  Gwaithlyfr ymarferol yn ymdrin â’r gweithgareddau ymarferol (cyfanswm o 7). Terfyn geiriau: N/A  40%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   QMP resit exam  To be scheduled in computer room  60%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad QMP  To be scheduled in computer room  60%
Asesiad Ailsefyll Ail eistedd gwaith lyfr  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Amlinellu esblygiad bywyd ar y Ddaear ar raddfa daearegol

2. Asesu’r digwyddiadau paleo-hinsoddol a daearegol wnaeth effeithio esblygiad bywyd

3. Adnabod a disgrifio anifeiliad a phlanhigion o wahanol cyfnodau o hanes y Ddaear

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn archwilio esblygiad bywyd ar y Ddaear, a’i perthynas i newidiadau paleo-hinsoddol a digwyddiadau daearegol pwysig. Ystyria’r modiwl datblygiad cynnar yr atmosffer cyn bod bywyd ar y Ddaear, ymddangosiad bywyd cyntefig, amrywiad bywyd trwy gydol y Paleosoig, teyrnasiad y dinosoriaid yn ystod y Mesosoig, ac yn olaf esblygiad dyn. Bydd y modiwl yn trafod y

datblygiadau yma yng nghyd-destun newidiadau atmosfferig byd-eang, drifft cyfandirol a chyfnodau o ddifodiant, gan archwilio y tystiolaeth daearegol a ffosilaidd dros y digwyddiadau yma.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd yn dilyn y themâu islaw: 1) Atmosffer cynnar y Ddaear ac ymddangosiad bywyd 2) Datblygiad y Paleosoig cynnar 3) Amrywiad y Palaeosoig uchaf 4) Bywyd morol a dinosoriaid y Mesosoig 5) Difodiant bywyd – y 5 digwyddiad mawr 6) Oeri’r Cenosoig ac esblygiad dyn 7) Yr Anthroposen Lle’n berthnasol, bydd samplau ffosil yn cael eu defnyddio yn ystod y darlithoedd i archwilio datblygiadau morffolegol trwy gydol y cyfnodau yma.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cael eu annog i drafod trwy prosesau cwestiwn ac ateb trwy gydol y darlithoedd, ac yn cael eu annog i weithio mewn grwpiau bach o fewn y sesiynau ymarferol, gan gynnwys rhannu a thrafod samplau ffosil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn darparu cefndir cryf mewn newid hinsawdd ar raddfa daearegol, sy’n ganolig i ddealltwriaeth o’r ddadl newid hinsawdd presennol. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o balaeontoleg, geocronoleg a datblygiad y Ddaear, sy’n hanfodol o fewn unrhyw gyrfa daeareg/gwyddor amgylcheddol.
Datrys Problemau Mae’r allu i adnabod a disgrifio gwahanol samplau ffosil yn cynnig sgiliau datrys Y problemau o fewn meysydd palaeontoleg, stratigraffig a daeareg yn gyffredinol. Trwy gydol y sesiynau ymarferol a’r darlithoedd bydd disgwyl i’r myfyrwyr dadansoddi pwysigrwydd y ffosilau o fewn cyd-destun esblygiad bywyd, digwyddiadau daearegol
Gwaith Tim Cyfathrebu fel grŵp yn elfen craidd o ddisgrifio a dadansoddi enghreifftiau ffosil yn y sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd adborth ffurfiannol ar y gwaithlyfrau ymarferol yn cael ei cynnig trwy gydol y modiwl, gan gynnwys asesiad ymarferol ffurfiol yn ystod y tymor er mwyn asesu perfformiad. Bydd cwestiynau byr yn nhrefn yr arholiad yn cael ei cyflwyno yn y darlithoedd/ar y Porth er mwyn i’r myfyrwyr gallu asesu eu datblygiad a dealltwriaeth yn erbyn disgwyliadau yr arholiad.
Rhifedd Mae dadansoddi data rhifiadol a graffigol yn hanfodol i ddeall a gwerthfawrogi newidiadau paleohinsawdd ac amser daearegol, ac yn cael eu trafod o fewn y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau palaeontoleg, stratigraffeg, geocronoleg a phaleohinsawdd, ac yn annog y myfyrwyr i ddeall sut mae’r meysydd yma’n cyd-gysylltu.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl yma yn cyflwyno sawl pwnc newydd i’r myfyrwyr, ac felly bydd rhaid darllen yn ehangach. Bydd cwestiynau ‘gwybodaeth pellach’ yn cael ei osod o fewn y sesiynau ymarferol er mwyn annog datblygiad sgiliau ymchwil a llythrennedd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd ymchwil a darllen ychwanegol ar y we ac o fewn cyhoeddiadau academaidd yn hanfodol, ac yn cael ei annog trwy cynnig rhestrau darllen Aspire.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4