Module Information

Cod y Modiwl
GQ30920
Teitl y Modiwl
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau, os methwyd yr elfen traethawd  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 2,000 o eiriau, os methwyd yr elfen traethawd  30%
Asesiad Ailsefyll 1 x aseiniad 1,500 o eiriau yn lle?r log dysgu  20%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 2,000 o eiriau  30%
Asesiad Semester 1 x Log Dysgu  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Deall bwysigrwydd a dylanwad y meddwl athronyddol a diwinyddol yng Nghymru.
2. Disgrifio athroniaeth a dysgeidiaeth ffigyrau Cymreig allweddol o fewn cyd-destun traddodiadau ehangach o feddwl.
3. Asesu'n feirniadol yr athroniaethau a'r dysgeidiaeth a soniwyd amdanynt uchod.
4. Adnabod elfennau allweddol traddodiadau'r meddwl megis sosialaeth, cenedlaetholdeb a heddychiaeth.
5. Gwerthuso pwysigrwydd a chysondeb y ddau gysyniad allweddol yng nghyd-destun traddodiadau meddyliol Cymru: radicaliaeth a rhyddfreiniad
6. Cymharu a chyferbynnu'r themau allweddol mewn amrywiaeth o athroniaethau o fewn hanes Cymru.
7. Ystyried a meddwl yn greadigol yngl'r a'r cysylltiadau rhwng gwahanol dueddiadau a syniadau hanesyddol a'r rheiny a welir yn y Gymru gyfoes.
8. Gwerthuso a llunio dadleuon athronyddol.

Cynnwys

Bydd y modiwl 20 credyd yn cael ei ddysgu ar sail ugain darlith a deg seminar. Nod y darlithoedd yw rhoi braslun o'r cyd-destun rhyngwladol ac hanesyddol cyn cyflwyno'r unigolion a astudir ac agweddau allweddol eu dysgeidiaeth. Bydd y seminarau'n gyfle i drafod y syniadau mewn manylder, eu hystyried mewn cyd-destun ehangach ac i fyfyrio ar eu dylanwad ar Hanes Cymru.
1. Astudio Hanes Deallusol
2. Cristnogaeth ac Awstin yr Henfyd Diweddar
3. Heresi Pelagius ? etifeddiaeth `Gymreig'?
4. Cenedl ac Ymerodraeth yn yr Oesoedd Canol Cynnar
5. Cyfraith Hywel Dda a'r Cymry cynnar
6. Cenedl a'r Wladwriaeth yng nghyfnod Gwrthryfel Glynd'r
7. Glynd'r: Adeiladydd Cenedl?
8. Yr Oleuedigaeth a Phamffledwyr y Chwyldro Ffrengig
9. Athroniaeth a Gwleidyddiaeth Richard Price
10. Robert Owen a'r Iwtopaidd
11. Marx a'r Traddodiad Democrataidd Cymdeithasol
12. Gwreiddiau Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth
13. Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb: 1848 hyd at y Mudiad Cymru Ifanc
14. Yr Heddychwyr: Heddychiaeth, Henry Richard a David Davies
15. Sosialaeth Bevan
16. Cenedlaetholdeb Cymreig Saunders Lewis
17. J.R. Jones, Prydeindod a Gwleidyddiaeth Iaith
18. Ghandi a Gwynfor
19. Raymond Williams a Damcaniaeth Ddiwylliannol
20. Myfyrdodau ar Radicaliaeth a Rhyddfreiniad

Seminarau
1. Diwinyddiaeth a Dysgeidiaeth Pelagius
2. Cyfraith Hywel Dda
3. Gweledigaeth Glynd'r am Gymru
4. Athroniaeth Richard Price
5. Robert Owen a Photensial y Ddynolryw
6. Y Radical Cymreig: Pwy? Beth? Ble?
7. Apostolion Heddwch Cymru
8. Bevan a'r Traddodiad Sosialaidd
9. Cenedlaetholdeb Cymreig
10. Meddwl Marxaidd Raymond Williams

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl yw trafod a dadansoddi syniadau'r deillio o gyd-destun Cymreig, syniadau sydd ag elfennau gwleidyddol, athronyddol neu grefyddol ? ac ystyried eu perthynas a'r byd y tu hwnt i Glawdd Offa. Bydd cyfle i ystyried y tebygolrwydd a'r gwahaniaeth rhwng gwahanol athroniaethau a chyfnodau hanesyddol dan sylw, yn ogystal a chyfle i ystyried i ba raddau y caiff y syniadau yma eu hadleisio mewn gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes. Byddwn yn ystyried rhai o'r ffigyrau `Cymraeg? enwocaf dros gyfnod eang ? o'r pumed ganrif hyd heddiw.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno rhai o ffigyrau enwog hanes Cymru gan gynnig y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o'r syniadau a'r hegwyddorion allweddol. Caiff eu hathroniaeith a'r dysgeidiaeth eu dadansoddi mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ystyried y cysylltiadau gyda digwyddiadau a thueddiadau deallusol eu cyfnodau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi’u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl I ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl: bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd paratoi testunau allweddol ar gyfer seminarau a darparu dadansoddiad ysgrifenedig byr ar ffurf log dysgu wythnosol yn gymorth i fyfyrwyr ddatblygu eu doniau beirniadol a darparu sail ar gyfer datrys problemau'n ddeallusol yn yr ystafell seminar. Datblygir ac asesir gallu myfyrwyr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol farn , trefnu data ac ystyried atebion posibl i broblem, ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol, paratoi dadleuon damcaniaethol, ystyried achosion tebyg, edrych am batrymau, rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau’r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o’r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau y gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan y myfyrwyr gyfle I ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys:: • Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol I'r modiwl • Gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6