Module Information

Cod y Modiwl
MT10510
Teitl y Modiwl
Algebra
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Tiwtorial 4 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig dwy awr  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig dwy awr   Schedule early in exam period due to class size and number of markers  80%
Asesiad Semester Pedwar aseiniad, cyfranogiad  20%

Canlyniadau Dysgu

Ar gwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. defnyddio'r nodiant ar gyfer setiau a mapiadau;
2. llunio profion gan ddefnyddio'r Egwyddor o Anwythiad Mathemategol;
3. defnyddio'r Theorem Binomial ar gyfer esbonydd cyfanrif mewn amryw o sefyllfaoedd;
4. darganfod symiau cyfresi rhifyddol a geometrig;
5. ymdrin â rhifau cymhlyg a defnyddio Theorem DeMoivre;
6. defnyddio'r Algorithm Rhannu ar gyfer polynomialau;
7. deillio anhafaleddau ar gyfer israddau a chyfernodau polynomialau;
8. braslunio graffiau o ffwythiannau syml.

Cynnwys

1. SETIAU A MAPIADAU: Cyflwyniad i systemau rhifau a mapiadau.
2. SYMIAU MEIDRAIDD: Theorem Binomial, cyfresi rhifyddol a geometrig. Egwyddor Anwythiad Mathemategol.
3. RHIFAU CYMHLYG: Dadansoddiad geometrig. Theorem DeMoivre.
4. POLYNOMIALAU: Yr Algorithm Rhannu a Theorem y Gweddill. Ffwythiannau cymesur. Y berthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.
5. FFWYTHIANNAU O NEWIDYN REAL: Graffiau ffwythiannau elfennol (polynomial, trigonometrig, esbonyddol, logarithm, gwerth absoliwt, rhan cyfanrif). Ffwythiannau cyfnodol, eil ac od-ffwythiannau. Gweithrediadau ar ffwythiannau: adiad, lluosiad, rhaniad, cyfansawdd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o’u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portffolio yn crynhoi’r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal â chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a’r aseiniadau yn cynnwys trafod ar lafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i’r myfyrwyr o’r sialensau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes.
Datrys Problemau
Gwaith Tim Bydd trafodaeth grŵp yn chwarae rhan allweddol yng ngweithdai’r modiwl. Bydd yn gyfle i’r myfyrwyr rannu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir fod graddedigion Mathemateg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu sgiliau datrys problemau ac amryw o dechnegau Mathemategol yn ogystal â’r gallu i ymdrin â’r pwnc yn hyderus yn y ddwy iaith. Mae’r modiwl hwn yn ffocysu ddefnyddio’r sgiliau yma yn y gweithle.
Rhifedd Disgwylir i’r myfyrwyr gymorthwyo â tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal â gosod tasgau Mathemategol yn eu gwers ar ddiwedd y tymor.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i’r syniadau a’r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio’r rhestr ddarllen a roddir.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i’r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o’r chwiliadau eu cyflwyno o fewn yr aseiniadau a’r portffolio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4