Module Information

Cod y Modiwl
TC35120
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymarferol Annibynnol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 10 x Gweithdai 3 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 7 Awr   1. Perfformiad Unigol (30 munud o hyd)  60%
Asesiad Semester 2. Dogfennaeth Ddadansoddol (cyfwerth â 2,000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll 1. Perfformiad Unigol (30 munud o hyd)  60%
Asesiad Ailsefyll 2. Dogfennaeth Ddadansoddol (cyfwerth â 2,000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos gallu i greu a chynllunio prosiect ymarferol annibynnol. Arddangos gallu i drafod a threfnu adnoddau ac anghenion y prosiect hwnnw yn llawn cyn dechrau'r broses o weithio’n ymarferol.

2. Arddangos gallu i ystyried a dadansoddi'r prosiect fel problem ymchwil ymarferol.

3. Arddangos gallu i adnabod a chymhwyso llenyddiaeth gyd-destunol ar gyfer diffinio natur y prosiect fel pwnc ymchwil.

4. Arddangos gallu i weithredu'n ddisgybledig ac yn adfyfyriol tuag at nod arbenigol a bennir gan y myfyrwyr eu hunain.

5. Adolygu a gwerthuso’n feirniadol ymarferiad perfformio unigol, a derbyn cyfrifoldeb tros bennu a chyrraedd canlyniadau personol a chreadigol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddyfeisio, i ddatblygu, ac i wireddu perfformiad unigol annibynnol. Cefnogir pob perfformiad gan gydlynydd y modiwl, a thrwy oruchwyliaeth a thrafodaethau gyda’r cydlynydd, fe ddatblygir y gwaith nid yn unig fel prosiect perfformio ymarferol, ond hefyd yn fel prosiect ymarfer fel ymchwil.

Disgwylir i fyfyrwyr fedru diffinio cyfres o gwestiynau ymchwil perthnasol fel sail i'r gwaith. Yna, disgwylir iddynt allu mynegi’n glir trwy gyfrwng y perfformiad fod ganddynt resymeg eglur a phriodol pam eu bod wedi mynd ati i geisio ateb y cwestiynau hynny trwy gyfrwng y perfformiad terfynol.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 10 x 2 awr
Seminarau/Tiwtorialau: 3 x 1 awr o sesiwn diwtora un-i-un ar gyfer pob myfyriwr
Dosbarthiadau ymarferol: 10 x 3 awr yr wythnos o ymarfer annibynnol


Bydd y darlithoedd wythnosol yn taro golwg ar y pynciau a’r meysydd canlynol:

• Technegau a phrosesau ar gyfer creu deunydd perfformio unigol
• Technegau a phrosesau ar gyfer strwythuro deunydd perfformio
• Dramatwrgiaeth
• Technegau hyfforddi penodol a gwaith byrfyfyr
• Ysgrifennu perfformiadol
• Ysgrifennu ar gyfer perfformio
• Lleoli perfformio
• Gweithio gyda’r geiriol, y gweledol, a’r gofod perfformio
• Dogfennu a chofnodi proses
• Ysgrifennu datganiad artist

Cynhelir sesiynau tiwtora unigol er mwyn gallu cyflwyno a chynnal cyfres o dasgau dyfeisio, a derbyn adborth, a sicrhau bod gwaith annibynnol yn cael ei fonitro’n ddigonol ar hyn y semester.

Yn unol â chanlyniadau dysgu’r modiwl, bydd y modiwl yn:

- Rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu ymarferiad creadigol annibynnol, ac i arbrofi ac i wireddu technegau ar gyfer dyfeisio gwaith perfformio unigol.
- Galluogi myfyrwyr i synio, i gynllunio, i drefnu ac i greu perfformiad unigol.
- Rhoi cyfle i fyfyrwyr adlewyrchu’n feirniadol ar y broses o greu ac o gyflwyno gwaith perfformio hunan-ddyfeisiedig, a hynny mewn ffordd dreiddgar a ddeallusol.
- Rhoi cynnig i fyfyrwyr gyd-destunoli eu gwaith o fewn maes ymarfer perfformio cyfoes trwy gyfrwng digwyddiad cyhoeddus, yn ogystal ag o fewn maes academaidd trwy gyfrwng ymarfer fel ymchwil.

Erbyn diwedd y modiwl, byddwch wedi creu perfformiad unigol o 30 munud o hyd. Bwriedir i’r gwaith terfynol fod o safon a fyddai’n ei wneud yn briodol ar gyfer ei berfformio tu hwnt i ddisgwyliadau eich cwrs, mewn cyd-destun a fyddai’n briodol ar gyfer artistiaid ifanc. At hynny, nid yn unig gall y gwaith terfynol eich cynorthwyo i gamu o fod yn fyfyriwr israddedig i fod yn ymarferwr mwy proffesiynol, ond hefyd gall arwain at ymchwil ymarferol academaidd pellach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu gwaith ymarferol, boed hynny'n cyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth gyfarwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tîm dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. Gobeithir y bydd y gwaith hwn, ac unrhyw ddogfennaeth ohono, yn gweithredu fel 'showcase' ar gyfer gwaith y myfyriwr, ac yn fodd iddynt gyflwyno’u hunain i gyflogwyr.
Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. Fe fydd y broses o greu gwaith creadigol annibynnol a'i drin a'i ddiffinio ar yr un pryd fel prosiect ymchwil yn her sylfaenol ac yn gofyn i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision sawl gwahanol fath o atebion posibl.
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dîm creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu. Hyd yn oed pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn annibynnol ac unigol, fe fydd yn rhaid iddynt drafod a rhesymoli anghenion eu Prosiect mewn perthynas â chyflenwad adnoddau'r Adran.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer gan y Tiwtor a ddosrannir iddynt, a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. Fe fydd y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil yn rhoi cyfle iddynt adfyfyrio ar eu cynnydd yn ystod y modiwl yn fwy ffurfiol, ac i werthuso rhai o ganlyniadau'r gwaith ymarferol ar y Prosiect.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn ystyried pob myfyriwr fel artist annibynnol, a bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymateb yn briodol i'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a hynny. Bydd pwyslais ar gyflogadwyedd a chreu cysylltiadau gyda’r sector broffesiynol, gyda’r bwriad bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio’u gwaith fel enghraifft o’u gallu ymarferol a gweledigaeth artistig ac yn ei arddangos mewn cyd-destunau cyhoeddus.
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; fe asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol trwy gyfrwng y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno'r prosiect hwn; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6