Module Information

Cod y Modiwl
TR30520
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig Troseddeg 1 (sem 1)
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Rhagofynion

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 3 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd estynedig  (6,000 - 10,000 o eiriau ar y pwnc a gymeradwywyd)  100%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  (6,000 - 10,000 o eiriau ar yr un pwnc)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy adnabod testun hyfyw i ymchwilio iddo;
2. Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau a dangos gallu i werthuso a blaenoriaethu'r ffynonellau pwysicaf;
3. Cynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd;
4. Trefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl, y gwerthusiad beirniadol, y data a'r sylwadau clo yn effeithiol;
5. Dadansoddi'n feirniadol a gwerthuso'r deunydd troseddegol a seicolegol;
6. Rhoi cyflwyniad eglur, cywir, dadansoddol a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud a phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig. Mae'r ymarfer cyffredinol o ymchwilio a llunio'r traethawd estynedig yn datblygu'r wybodaeth am adnoddau'r llyfrgell, a'r hyfforddiant ar gyfer eu defnyddio, a gyflwynir yn y modiwlau 'Readings in Criminology' ac Elfennau Troseddeg. Datblygir hefyd yr hyfforddiant ar ddarllen troseddeg a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf, yn arbennig y modiwl 'Readings in Criminology', ac mae'n cymhwyso'n ymarferol y gallu i ddeall methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol a ddysgwyd yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae ymchwilio'n llwyddiannus yn rhagdybio'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau'r llyfrgell ac i olrhain ffynonellau drwy gyfrwng cronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Darperir cyfarwyddyd gan y goruchwyliwr a bennwyd drwy gyfres o cyfarfodydd. Yn ystod y rhain, bydd y myfyriwr yn nodi ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arnynt. Swyddogaeth y goruchwyliwr fydd rhoi cyngor am fethodoleg ymchwil a'r modd y cyflwynir yr ymchwil yn y traethawd ei hun.

Nod

Datblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig a darn sylweddol o waith ymchwil, yn arbennig y sgiliau a'r gallu y gellir eu hystyried yn annibynnol ar y rheiny a gyflwynir drwy'r broses ddysgu ac a brofir gan arholiadau ysgrifenedig confensiynol.

Cynnwys

Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir cyfathrebu ar lafar trwy drafod syniadau a mynegi'r problemau sy'n gysylltiedig â'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda'r goruchwyliwr. Atgyfnerthir cyfathrebu ysgrifenedig drwy baratoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith ar amser.
Datrys Problemau Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn cynnwys sgiliau datrys problemau a bydd gwneud hynny yn atgyfnerthu ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes.
Gwaith Tim Gelwir nifer o gyfarfodydd i roi cyfle i'r myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu'r problemau a wynebwyd a'r atebion posibl iddynt.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a'r angen i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol a'u trefnu, bydd y myfyriwr yn dysgu i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Rhifedd Bydd nifer o'r testunau yn cynnwys gwaith dadansoddol ystadegol cymhleth fydd angen ei ddeall a'i werthuso.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Mae datblygu sgiliau ymchwil yn hanfodol mewn modiwl traethawd estynedig.
Technoleg Gwybodaeth Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau yn arbennig; Paratoi'r aseiniad yn electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6