Module Information

Cod y Modiwl
BG31710
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 36 x Seminarau 2 Awr
Darlith 4 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Seminar 1  (cyflwyniad 15%, asesiad gan gydfyfyrwyr 5%)  20%
Asesiad Semester Seminar 2  (cyflwyniad 35%, cyfrannu at drafodaeth 5%)  40%
Asesiad Semester Erthygl cylchgrawn 1 (500 gair)  15%
Asesiad Semester Erthygl cylchgrawn 2 (500 gair)  25%
Asesiad Ailsefyll Bydd yn rhaid i'r myfyrwyr gymryd elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Ymchwilio a chrynhoi pynciau cyfredol o ddiddordeb i'w gradd.

2. Cyflwyno a thrafod eu crynodebau ar lafar mewn seminarau.

3. Ysgrifennu erthygl i gyfathrebu'r pwnc i gynulleidfa gyffredinol.

Disgrifiad cryno

Diben y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ymchwilio'n ddyfnach i bwnc o ddiddordeb iddynt ac sy'n berthnasol i'w cynllun gradd. Byddant nid yn unig yn dysgu mwy am eu pwnc dewisol, ond byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau o safbwynt ymchwil gwyddonol a chyfathrebu. Mae'r modiwl yn seiliedig ar eu hymchwil annibynnol i'w pwnc, ac wedi'i ategu gydag ambell ddarlith ar sgiliau cyfathrebu penodol. Yna, byddant yn ymarfer y sgiliau cyfathrebu hynny trwy rannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gyda chymheiriaid gwyddonol a'r cyhoedd.

Nod

Nod y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ar gyfer meddwl yn feirniadol, syntheseisio, a chyfathrebu gwyddoniaeth.

Cynnwys

Dau weithdy 2-awr ar sgiliau cyfathrebu penodol, i'w dilyn gan seminarau dan arweiniad y myfyrwyr ar eu pynciau dewisol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu ymchwil i gynulleidfa wyddonol a chyffredinol ac asesir nifer o wahanol ffurfiau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfathrebu sy'n allweddol i wella cyflogadwyedd.
Datrys Problemau Mae'r sgil hon yn elfen allweddol o'r modiwl, sef gweithio allan sut i grynhoi gwybodaeth a'i chyflwyno mewn fformat hygyrch.
Gwaith Tim Ceir elfennau o weithio mewn tîm yn ystod y darlithoedd/gweithdai cychwynnol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth ar y seminar gyntaf a'r erthygl blog cyntaf, felly gall y myfyrwyr ddefnyddio'r adborth ffurfiannol i wella'u perfformiad mewn asesiadau diweddarach.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau sy'n berthnasol i'w cynlluniau gradd, a thrwy hynny byddant yn datblygu dealltwriaeth bellach o'u pwnc dewisol.
Sgiliau ymchwil Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn gofyn i fyfyrwyr gymathu gwybodaeth o lenyddiaeth academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir amrywiaeth o fformatau TG yn ystod y modiwl hwn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6