Module Information

Cod y Modiwl
CYM0460
Teitl y Modiwl
Portffolio Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio creadigol ynghyd ag esboniad beiriadol  Naill ai, Portffolio rhyddiaith: 15,000 o eiriau; dylid neilltuo 3?4,000 o eiriau ar gyfer yr esboniad beirniadol. Neu, Portffolio barddoniaeth: 8,000 o eiriau; dylid neiltuo 3?4,000 o eiriau ar gyfer yr elfen feirniadol.   100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos y gallant ymddisgyblu i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith sy'r anelu at gyrraedd safon cyhoeddi.

Arddangos sgiliau technegol datblygedig yn eu dewis ffurf, sef rhyddiaith neu farddoniaeth.

Dangos eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg cywir a graenus gan ddefnyddio gwahanol gyweiriau'r iaith.

Dangos eu bod yn gallu golygu eu gwaith a'r brawfddarllen cyn ei gyflwyno mewn diwyg proffesiynol.

Dangos eu bod yn gallu trafod gwybodaeth dechnegol yn yr adroddiad/sylwebaeth feirniadol sy'r cyd-fynd a'r portffolio creadigol.

Cynnwys

Portffolio o waith creadigol gwreiddiol: gall fod yn nofel, nofelig, yn gasgliad o ddarnau creadigol amrywiol, yn gasgliad o straeon, yn gyfrol o gerddi neu yn waith cofiannol neu hunangofiannol. Bydd y portffolio hefyd yn cynnwys esboniad beirniadol hunanfyfyriol a fydd yn cyd-destunoli'r gwaith trwy amlygu'r materion theoretig sy'r codi o'r gwaith a thrwy sylwebu ar brosesau creadigol goddrychol yr awdur. Goruchwylir y broses ymchwil ac ysgrifennu gan diwtor ysgrifennu creadigol personol y myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r tiwtor penodedig yn gyson. Er mwyn pennu tiwtor addas, bydd myfyrwyr yn cyflwyno amlinelliad o'r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer y portffolio.

Darperir canllawiau ysgrifenedig manwl i'r esboniad beirniadol ar ddechrau'r modiwl.

Disgrifiad cryno

Cynlluniwyd y modiwl creiddiol hwn ar gyfer pob myfyriwr sy'r dilyn y cynllun MA Ysgrifennu Creadigol. Y modiwl hwn fydd yn cyfateb i Draethawd Hir mewn cynlluniau MA traddodiadol. Disgwylir i fyfyrwyr lunio'r portffolio dros Semestrau 2 a 3.

Modiwl craidd ac iddo bwyslais ymarferol yw'r modiwl hwn, gan y bydd y portffolio yn ffocws ar gyfer datblygu sgiliau creadigol y myfyriwr trwy roi ar waith y dulliau generig, llenyddol a theoretig a ddysgir ar fodiwlau eraill y cynllun (gweler rhagofynion a chydofynion). Bydd y portffolio yn fodd i annog myfyrwyr i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith. Fel rhan o'r modiwl, pennir tiwtor creadigol personol i bob myfyriwr: penderfynir ar fformat y portffolio (rhyddiaith neu farddoniaeth) mewn ymgynghoriad a'r tiwtor, a chynhelir cyfarfodydd mynych gyda'r tiwtor i drafod cynlluniau a drafftiau, ynghyd a thrafod a myfyrio ar newidiadau ac addasiadau a wneir i'r testun(au) creadigol a gyflwynir yn y portfolio gorffenedig.

Nod

Bydd y portffolio yn ffocws ar gyfer datblygu creadigrwydd y myfyrwyr wrth iddynt gymhwyso'r dulliau generig, llenyddol a theoretig a ddysgir ar fodiwlau eraill y cynllun. Disgwylir i fyfyrwyr lunio esboniad beirniadol i gyd-fynd a'r portffolio. Trwy gyflwyno portffolio o waith a luniwyd dros ddau semester, ynghyd a'r esboniad beirniadol, gellir mesur camau yr ymdrech, sef cynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu ar fffurf darn o waith ysgrifenedig estynedig; yn trafod a darllen gyda thiwtoriaid y modiwl, ac yn darllen gweithiau’n gyhoeddus a’u trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr ffurfio a datblygu dadl estynedig, ac i drawsffurfio syniadau yn ddarnau o ryddiaith neu farddoniaeth berfformiadwy.
Gwaith Tim Na, gwaith creadigol unigol a gynhyrchir ar y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ddangos hunan-gyfarwyddyd trwy ddatblygu a rheoli eu sgiliau ymchwil eu hunain, gan gynnwys trefnu amser yn effeithiol.
Rhifedd Amherthnasol i’r modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu rhyddiaith neu farddoniaeth greadigol i safon broffesiynol a soffistigedig.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn amlygu sgiliau astudio datblygedig, ac yn arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio adnoddau llyfryddol electronig a gwefannau; cynhyrchu dogfen(nau) trwy eirbrosesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7