Module Information

Cod y Modiwl
CYM1060
Teitl y Modiwl
Portffolio Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio proffesiynol  Portffolio proffesiynol sy'n dangos gwaith dadansoddi ac adfyfyrio Naill ai, Llunio portffolio cyfieithu, sy’n cynnwys sawl cyfieithiad hir o destunau sydd wedi eu cytuno gyda gorychwyliwr. Ysgrifennu traethawd estynedig sy’n adlewyrchu ar y broses gyfieithu, gan gyfeirio at theori cyfieithu a defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Neu, Llunio traethawd estynedig ar agwedd ar bolisi iaith yng Nghymru a’i chymharu gyda sefyllfa mewn gwlad arall neu wledydd eraill. Dylid cyfeirio at theorïau cynllunio polisi iaith yn y traethawd.   Naill ai, Cyfieithiadau (4,000 o eiriau) a Thraethawd (11,000 o eiriau) Neu, Traethawd (15,000 o eiriau)  100%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos y gallant ymddisgyblu i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith sy’n anelu at gyrraedd safon cyhoeddi.

trafod theorïau polisi iaith neu gyfieithu a’u cymhwyso wrth lunio eu dadansoddiadau eu hunain.

dangos eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg cywir a graenus gan ddefnyddio gwahanol gyweiriau’r iaith.

dangos eu bod yn gallu golygu eu gwaith a’i brawfddarllen cyn ei gyflwyno mewn diwyg proffesiynol.

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’w prosiectau.

Disgrifiad cryno

Modiwl craidd ac iddo bwyslais ymarferol yw’r modiwl hwn, gan y bydd y portffolio yn gofyn i’r myfyrwyr ganolbwyntio ar un agwedd ar y cwrs MA a fydd fwyaf defnyddiol ar gyfer eu gyrfa dewisol, a disgwylir iddynt gymhwyso dulliau dadansoddi, ymchwilio a/neu gyfieithu wrth lunio eu prosiect. Bydd y portffolio yn fodd i annog myfyrwyr i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith. Fel rhan o’r modiwl, pennir goruchwyliwr personol i bob myfyriwr: penderfynir ar bwnc y portffolio polisi iaith a thestunau cyfieithu’r portffolio cyfieithu mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, a chynhelir cyfarfodydd mynych gyda’r tiwtor i drafod cynlluniau a drafftiau, ynghyd â thrafod a myfyrio ar newidiadau ac addasiadau a wneir i’r cyfieithiadau a/neu’r traethodau a gyflwynir yn y portffolio gorffenedig.

Cynnwys

Disgwylir i’r myfyrwyr lunio portffolio sy’n cyd-fynd ag un o’r patrymau canlynol:

1. Llunio portffolio cyfieithu, sy’n cynnwys sawl cyfieithiad hir o destunau sydd wedi eu cytuno gyda gorychwyliwr. Ysgrifennu traethawd estynedig sy’n myfyrio ar y broses gyfieithu, gan gyfeirio at theori cyfieithu a defnydd o dechnoleg gwybodaeth.
Cyfieithiadau (hyd at 4,000 o eiriau)
Traethawd (hyd at 11,000 o eiriau) (yn unol â rheoliadau'r Brifysgol)

Neu

2. Llunio traethawd estynedig ar agwedd ar bolisi iaith yng Nghymru a’i chymharu gyda sefyllfa mewn gwlad arall neu wledydd eraill neu drafod ei natur o fewn cyd-destun Cymru. Dylid cyfeirio at theorïau cynllunio polisi iaith yn y traethawd.
Traethawd (hyd at 15,000 o eiriau) (yn unol â rheoliadau'r Brifysgol)

Goruchwylir y broses ymchwil ac ysgrifennu gan diwtor personol y myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cyfarfod â’r tiwtor penodedig yn gyson. Er mwyn pennu tiwtor addas, bydd myfyrwyr yn cyflwyno amlinelliad o’u rhaglen waith arfaethedig ar gyfer y portffolio.
Darperir canllawiau ysgrifenedig manwl i’r esboniad beirniadol ar ddechrau’r modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu ar ffurf traethawd estynedig neu gyfieithiadau a dadansoddiad. Disgwylir i'r myfyrwyr wneud defnydd o Gymraeg cywir yn ysgrifenedig fel rhan o'r portffolio. Byddant yn trafod eu gwaith ar lafar gyda thiwtoriaid y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gellir defnyddio’r portffolio fel tystiolaeth o ddealltwriaeth drwyadl o hanes, theori a datblygiad polisi iaith neu fel tystiolaeth o sgiliau cyfieithu a dealltwriaeth o natur a gofynion cyfieithu proffesiynol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr ffurfio a datblygu dadl estynedig, gan gymhwyso sgiliau dadansoddi a gwerthuso a ddatblygir mewn modiwlau eraill. Disgwylir i fyfyrwyr a fydd yn dewis llunio portffolio cyfieithu ddatrys problemau cyfieithu penodol wrth lunio eu portffolio.
Gwaith Tim Na, gwaith unigol a gynhyrchir ar y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ddangos hunan-gyfarwyddyd trwy ddatblygu a rheoli eu sgiliau ymchwil eu hunain, gan gynnwys trefnu amser yn effeithiol. Bydd disgwyl iddynt wella'u gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol a fynegir gan eu tiwtoriaid.
Rhifedd Amherthnasol yn y cyswllt hwn.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn amlygu sgiliau astudio datblygedig, ac yn arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Disgwylir i fyfyrwyr wneud defnydd o ffynonellau ymchwil priodol er mwyn gosod sylfaen gyd-destunol addas i’w gwaith.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio adnoddau llyfryddol electronig a gwefannau. Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau wrth lunio eu portffolios.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7