Module Information

Cod y Modiwl
GW35620
Teitl y Modiwl
Cudd-Wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 5 x Seminarau 2 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. dadansoddi rol cudd-wybodaeth yn agweddau allweddol ar lunio polisiau diogelwch cenedlaethol ers 1900
2. gwerthuso effeithiolrwydd a moesoldeb 'gweithrediadau cudd' mewn gwleidyddiaeth ryngwladol
3. gwerthuso rol ysbio yn y Rhyfel Oer
4. asesu'r berthynas rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr cudd-wybodaeth
5. arddangos dealltwriaeth o rol cudd-wybodaeth mewn ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth ac yn erbyn gwrthryfelwyr
6. arddangos dealltwriaeth o'r rhesymau dros 'fethiannau cudd-wybodaeth' ac i ba raddau y gellid dysgu gwersi o gamgymeriadau blaenorol;
7. trafod pwysigrwydd moeseg ac atebolrwydd
8. gwerthuso goblygiadau diwedd y Rhyfel Oer i gudd-wybodaeth a'r gwasanaethau cudd-wybodaeth
9. adnabod yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth yn y byd sydd ohoni

Nod

Nod y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r prif syniadau a'r pynciau wrth astudio cudd-wybodaeth. Cyflawnir y nod hwn drwy astudio datblygiad hanesyddol cudd-wybodaeth fel ffactor mewn cysylltiadau rhyngwladol, a dadansoddi'r pynciau cyfoes sy'n effeithio ar wasanaethau cudd-wybodaeth yn y byd sydd ohoni.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddeall y cysyniadau a'r pynciau sydd wrth wraidd astudio cudd-wybodaeth yn academaidd. Bydd hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i gefndir hanesyddol twf cudd-wybodaeth fel ffactor mewn cysylltiadau rhyngwladol.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r syniadau a’r pynciau canolog sy’n codi wrth astudio cudd-wybodaeth. Bydd y modiwl yn dechrau trwy ganolbwyntio ar gefndir hanesyddol datblygiad cudd-wybodaeth gyfoes, ac yn trafod y grefft o ysbïo. Bydd y modiwl yn trafod gwleidyddiaeth cudd-wybodaeth yn benodol, yn cynnwys cwestiynau ynghylch gwleidyddoli, moeseg ac atebolrwydd, ac yn asesu’r heriau a’r pynciau newydd a wynebir yng ngwleidyddiaeth fyd-eang gyfoes.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut orau i fynnu cydnabyddiaeth. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol yn eu nodau a'u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau lle bydd trafodaethau a chyflwyniadau yn brif gyfrwng y dysgu a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogiad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Anogir cyd-fyfyrwyr i gwestiynu'r sawl sy'n cyflwyno'r papur ac i feirniadu ei ddulliau neu i awgrymu meysydd ar gyfer datblygu'r pwnc a ddewiswyd; bydd pawb yn ei dro yn trafod cyfraniad a syniadau ei gilydd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y trafodaethau yn arbennig yn helpu i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, gosod terfynau'r prosiectau, meithrin a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau yn cyfrannu at bortffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un o brif amcanion y modiwl; wrth gyflwyno traethawd, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadau gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu'n rhesymegol; ystyried achosion tebyg ac annhebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y seminarau'n cynnwys yn rhannol drafodaethau mewn grwpiau bychain lle disgwylir i'r myfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grwp. Mae dadleuon a thrafodaethau o'r fath yn y dosbarth yn elfen hanfodol o'r modiwl. Bydd yr elfen o chwarae rol mewn ambell seminar yn mynnu hefyd fod y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd fel tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy ymchwilio a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad y traethawd a phynciau'r cyflwyniadau. Bydd yr angen i baratoi ar gyfer cyflwyniad seminar a chwrdd a dyddiad cau'r traethawd yn hoelio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser eu hunain a'u hadnoddau yn dda.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau yn y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: -Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl -Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd -Arddangos technegau ymchwil sy'n benodol i'r pwnc -Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwilio annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i ddod o hyd i ffynonellau ymchwil priodol ac ysgrifennu'r canlyniadau hefyd yn hwyluso sgiliau ymchwil. Bydd paratoi gwaith ymchwil ar gyfer chwarae rol / cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau bod asesiad o allu'r myfyriwr i weithio'n annibynnol yn gallu cael ei wneud.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6