Module Information

Cod y Modiwl
MOR0510
Teitl y Modiwl
Dulliau Darllen
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 3 x Gweithdai 9 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesu 3,500 o eiriau  100%
Asesiad Ailsefyll Asesu 3,500 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos y gallant ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol
Deall sut i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol
Arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin a ffynonellau
Dangos eu bod yn ymwybodol o seiliau damcaniaethol y gwahanol dduliau hyn

Disgrifiad cryno

Ffocws y modiwl fydd y gwahanol 'ddulliau darllen' a ddefnyddir gan ymchwilwyr wrth eu gwaith, Bydd yn gyfle i ddeall sut mae ymchwilwyr profiadol yn darllen i ategu eu hymchwil. Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio ar dasgau a osodir gan yr ymchwilwyr gwadd ac fe'u hanogir i gymhwyso profiad y siaradwyr at eu hymchwil eu hunain.

Cynnwys

  • Darllen y llafar: cyflwyniad i ddulliau ymchwil ieithyddol
  • Darllen ffilm
  • Darllen barddoniaeth
  • Testunau a chyfieithu
  • Golygu testunau canoloesol
  • Darllen y gyfraith
  • Darllen Delweddau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y gallu i rannu, trafod a chyflwyno syniadau mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol.
Datrys Problemau Datblygir y gallu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o destunau mewn modd priodol
Gwaith Tim Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y gallu i ddarllen deunydd ymchwil yn eu maes yn feirniadol
Rhifedd Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am sut y defnyddir gwybodaeth rifyddol mewn testunau, e.e. sut y dewisir y wybodaeth hon a paham.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir y gallu i weithio â thestunau mewn mwy nag un iaith a thestunau a astudir mewn cyfieithiad.
Sgiliau ymchwil Datblygir: - Y gallu i arfer gwahanol ddulliau darllen wrth ymdrin â ffynonellau - Ymwybyddiaeth o seiliau damcaniaethol gwahanol ddulliau darllen
Technoleg Gwybodaeth Datblygir: Gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau; Y gallu i ddefnyddio ffynonellau ar lein wrth ymchwilio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7