Module Information

Cod y Modiwl
CC39620
Teitl y Modiwl
Prosiect Byr
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cyd-Anrhydedd neu Is-Bwnc
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno elfennau o'r gwaith cwrs a fethwyd/nas cyflwynwyd, neu elfennau o werth cyfatebol.  100%
Asesiad Semester Arddangosiadau ymarferol canol term  5%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig  (hyd at 16,000 o eiriau) a gwaith technegol cysylltiedig.  95%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.

Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.

Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.

Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu

Disgrifiad cryno

Rhaid i'r myfyrwyr gwblhau darn o waith technegol ac ysgrifenedig sylweddol, dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter. Fel arfer, bydd y prosiectau yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol drwy'r camau manylu a chynllunio, i weithredu a phrofi'r gwaith yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr a'r cefndir priodol yn gallu cyflawni prosiect sy'n cynnwys elfen o galedwedd. Gall prosiectau eraill ymchwilio i feysydd technegol a datblygu meddalwedd a phrosesau i asesu'r meysydd hynny.

Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.

Cynnwys

Bydd hyd at 10 darlith yn gysylltiedig a'r posiect.

Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn ol tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura.
Gwaith Tim Amherthnasol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun.
Rhifedd Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr.
Sgiliau ymchwil Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura.
Technoleg Gwybodaeth Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6