Module Information

Cod y Modiwl
FG15720
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ffiseg Arbrofol a Chyfrifiadurol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
PH15510, PH15720, FG15510
Rhagofynion
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 11 x Sesiynau Ymarferol 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dadansoddidata gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadur  Dadansoddi data gyda ddefnyddio pecyn cyfrifiadur  20%
Asesiad Semester 2 adroddiad Labordy x 20% yr un  40%
Asesiad Semester Dyddiadur Labordy  40%
Asesiad Ailsefyll Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. Dangos y gallu i lunio dyddiadur labordy.
2. Cynhyrchu adroddiadau labordy gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau.
3. Penderfynu rhesymau am ansicrwydd arbrofol a lleihau eu heffaith gymaint ag sy'n bosibl.
4. Dangos y gallu i gyflwyno gwerth mesuriad mewn ffiseg ynghyd â'r cyfeiliornad yn y mesuriad.
5. Defnyddio a gwerthfawrogi terfynau offerynnau labordy syml.
6. Defnyddio pecyn cyfrifiadur i gyflawni ymarferion cyfrifiadurol sylfaenol mewn ffiseg.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda damcaniaethau.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ffiseg gyfrifiadurol wedi ychwanegu dimensiwn newydd i arbrofi, oherwydd fod pŵer cyfrifiaduron a meddalwedd modern wedi ei gwneud yn bosibl i gasglu llawer o ddata a galluogi efelychiadau realistig o ffenomenau cymhleth. Mae hyn wedi ehangu'r ardaloedd sy'n hygyrch i ffisegwyr yn ogystal â chyflwyno disgyblaeth newydd, sef ffiseg cyfrifiadurol, i'r cwricwlwm. Mae'r defnydd eang o fodelu cyfrifiadurol mewn meysydd diwydiant, ariannol a rheolaeth wedi golygu galw mawr am fyfyrwyr sydd â'r sgiliau hyn.

Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o radd ffiseg yn Aberystwyth a chynlluniwyd y modiwlau ffiseg arbrofol fel bo myfyrwyr yn datblygu dros y dair neu bedair mlynedd o ddilyn cyfarwyddiadau manwl ar gyfer cynnal arbrofion syml yn y flwyddyn gyntaf, i ymchwilio testun a chynllunio a chynnal arbrofion eu hunain yn y prosiectau blwyddyn olaf.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i faes allweddol ffiseg arbrofol, sy'n agor drws i ddeall y byd o'n cwmpas, a dysgu sut i ddefnyddio ffiseg cyfrifiadurol i wella cynllunio arbrofion a dehongli canlyniadau arbrofol.

Disgwylir i israddedigion gofnodi eu gwaith mewn dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal i'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i ysgrifennu 2 o'r arbrofion ar ffurf adroddiad ffurfiol, yn cynnwys ymchwilio i'r testunau.

Cynnwys

• Cyflwyniad i becynnau PC sydd ar gael yn y labordai dysgu.
• Cyflwyniad i ffiseg cyfrifiadurol gan ddefnyddio pecyn PC.
• Dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol.
• Cynnal dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Arbrofion trydanol syml, defnydd o amlfesurydd ac osgilosgop
• Arbrofion Mecaneg, cydbwyso grymoedd mewn system statig
• Arbrofion opteg, diffreithiant a natur ton golau.
• Yn ychwanegol i'r arbrofion sylfaenol uchod, bydd gofyn i'r myfyrwyr berfformio detholiad o arbrofion sy'n ymchwilio sawl agwedd allweddol o ffiseg:
ehangiad thermol, dargludedd a phelydriad, deddfau nwy, cadwraeth momentwm, opteg, diffreithiant, lensau a pelydrau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiaduron Labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau wrth gynnal yr arbrofion ac wrth drin y data a gesglir o'r arbrofion
Gwaith Tim Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau, ac rydym yn annog cydweithrediad wrth ddatrys problemau modelu
Rhifedd Yn ei hanfod, mae ffiseg wedi'i seilio ar ddefnydd mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhifau. Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn rhan ganolog o'r modiwl hwn
Sgiliau pwnc penodol Cynllunio a chynnal arbrofion. Dadansoddi ansicrwydd arbrofol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn dibynnu ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Yn y modiwl bydd myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadur i ddadansoddi data, ac mae disgwyl iddynt gyflwyno eu hadroddiadau gan ddefnyddio prosesydd geiriau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4